Newyddion
Canfuwyd 5 eitem
Cyhoeddi Cadeirydd ar gyfer adolygiad o addysg uwch yng Nghymru
- Cyhoeddwyd mai’r Athro Patrick Prendergast fydd cadeirydd yr adolygiad annibynnol o addysg uwch yng Nghymru.
- Bydd yr adolygiad yn archwilio sut mae addysg uwch yng Nghymru yn cael ei hariannu a’i threfnu.
- Bydd yr Athro Prendergast yn cael ei gefnogi gan banel bach o arbenigwyr ym meysydd polisi, cyllid a llywodraethu addysg uwch.
Canlyniadau Safon Uwch: Y Gweinidog Sgiliau yn llongyfarch dysgwyr
- Mae dysgwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, Safon UG, Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru a chymwysterau galwedigaethol.
- Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi llongyfarch pawb sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw.
- Cafwyd canlyniadau Safon Uwch cryf eto eleni, gyda chynnydd ym mhob gradd allweddol o gymharu â’r llynedd a chynnydd nodedig o gymharu â 2019.

Y Dirprwy Weinidog yn nodi blaenoriaethau ar gyfer sgiliau ac addysg drydyddol yng Nghymru
- Mae archwiliad sgiliau cenedlaethol ac Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol ar y gweill i nodi anghenion y gweithlu a llunio strategaeth sgiliau newydd i Gymru.
- Bydd adolygiad o addysg uwch yn cael ei lansio ochr yn ochr ag ymrwymiadau i fynd i'r afael â'r pwysau sy'n wynebu colegau addysg bellach a chweched dosbarth.
- Mae'r prif flaenoriaethau hefyd yn cynnwys ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y system drydyddol a diwygio rhwydwaith Seren.
Gwaith yn dechrau i ailgyfeirio hyfforddiant sgiliau yng Nghymru
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o ddiwygiadau i hyfforddiant sgiliau galwedigaethol.
- Mae archwiliad sgiliau ar y gweill, a disgwylir i'r canfyddiadau cynharaf lywio agenda Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol sydd wedi'i chynllunio ar gyfer hydref 2026.
- Bydd Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol yn dod â chyflogwyr, addysgwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi ynghyd i lywio'r cynlluniau ar gyfer diwygio hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yng Nghymru.