Y Dirprwy Weinidog yn nodi blaenoriaethau ar gyfer sgiliau ac addysg drydyddol yng Nghymru
Deputy Minister sets out priorities for skills and tertiary education in Wales
- Mae archwiliad sgiliau cenedlaethol ac Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol ar y gweill i nodi anghenion y gweithlu a llunio strategaeth sgiliau newydd i Gymru.
- Bydd adolygiad o addysg uwch yn cael ei lansio ochr yn ochr ag ymrwymiadau i fynd i'r afael â'r pwysau sy'n wynebu colegau addysg bellach a chweched dosbarth.
- Mae'r prif flaenoriaethau hefyd yn cynnwys ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y system drydyddol a diwygio rhwydwaith Seren.
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi amlinellu ei gynlluniau i adeiladu system dysgu gydol oes gydlynol, hygyrch a rhagorol.
Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog fod archwiliad sgiliau cenedlaethol cynhwysfawr ar y gweill i fapio anghenion y gweithlu ledled Cymru heddiw ac yn y dyfodol, nodi lle mae prinder, a llywio penderfyniadau buddsoddi. Bydd canfyddiadau cynnar yr archwiliad yn bwydo i mewn i Uwchgynhadledd Sgiliau’r Dyfodol yr hydref hwn, gan ddod â busnesau, y sector trydyddol a darparwyr hyfforddiant at ei gilydd.
Mae strategaeth genedlaethol newydd hefyd yn cael ei datblygu, gan dynnu ar yr Uwchgynhadledd a’r Archwiliad, i gefnogi dysgwyr mewn marchnad lafur sy’n newid a hyrwyddo llwybrau galwedigaethol ac academaidd.
Gan gydnabod y pwysau sy’n wynebu colegau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion, ymrwymodd y Dirprwy Weinidog i weithio’n agos gyda’r sector i fynd i’r afael â heriau ac annog mwy o gydweithio.
Bydd adolygiad o addysg uwch hefyd yn cael ei lansio, a bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd mis Awst.
Ymrwymodd y Dirprwy Weinidog hefyd i wneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl ifanc o Gymru astudio a gweithio yn Ewrop, gan gynnwys drwy ailymuno ag Erasmus+.
Mae opsiynau hefyd yn cael eu harchwilio i ddiwygio Rhwydwaith Seren er mwyn mynd i’r afael yn well â bylchau o ran y rhai sy’n manteisio, a chefnogi dysgwyr o’r cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y system drydyddol yn flaenoriaeth graidd, gan gynnwys prentisiaethau a gallu dwyieithog yn y gweithle.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Mae pob dysgwr yn haeddu’r cyfle i lwyddo, pa bynnag lwybr maen nhw’n ei ddewis. Bydd ein hadolygiad o gyllid addysg uwch yn helpu i sicrhau bod ein prifysgolion yn gallu parhau i gynnig cyfleoedd sydd gyda’r gorau yn y byd i ddysgwyr yng Nghymru. A thrwy wrando ar fusnesau, colegau a darparwyr hyfforddiant, gallwn adeiladu system sgiliau sydd wir yn gweithio i bobl a chymunedau ledled Cymru. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn adeiladu system dysgu gydol oes sy’n gweithio i bawb.”