Panel yn cyfarfod am y tro cyntaf i edrych ar ddyfodol addysg uwch yng Nghymru
Panel meets for first time to explore future of Welsh higher education
- Cyfarfu'r panel ar gyfer yr adolygiad o addysg uwch yng Nghymru am y tro cyntaf heddiw.
- Mae'r panel yn cynnwys wyth aelod arbenigol gan gynnwys y cadeirydd, sef yr Athro Patrick Prendergast.
- Bydd yr adolygiad yn archwilio cyllid, cymorth i fyfyrwyr, ymchwil a chynaliadwyedd hirdymor y sector.
Cyfarfu'r panel a benodwyd i adolygu addysg uwch yng Nghymru am y tro cyntaf heddiw (19 Hydref), gan nodi dechrau ei waith i archwilio sut mae'r sector yn cael ei ariannu a'i drefnu.
Dan gadeiryddiaeth yr Athro Patrick Prendergast, bydd y panel yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried cymorth i fyfyrwyr, cyllid sefydliadol, ymchwil a chynaliadwyedd hirdymor addysg uwch yng Nghymru.
Cyhoeddwyd Cylch Gorchwyl yr adolygiad ym mis Awst.
Cefnogir yr Athro Prendergast gan banel o saith arbenigwr ym maes addysg uwch:
- Louise Casella, cyn-Gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.
- Y Fonesig Nicola Dandridge, sydd ar hyn o bryd yn gymrawd gwadd ym Mhrifysgol Bryste ac yn Ysgol Economeg Llundain, ac yn gyn-Brif Weithredwr y Swyddfa Fyfyrwyr ac Universities UK.
- Dr Haydn Edwards, cyn-brifathro Coleg Menai a chyn-gadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
- Maike Halterbeck, partner yn London Economics a chyd-bennaeth eu tîm Addysg a Marchnadoedd Llafur.
- Dr Dylan E Jones, cyn-Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chyn-bennaeth.
- Dr Joe Marshall, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnesau.
- Bethan Owen, cyn-Ddirprwy Brif Weithredwr CCAUC a chyn- Gyfarwyddwr Gweithredol Medr.
Wrth gyfarfod â'r panel heddiw, dywedodd Cefin Campbell, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol:
"Mae ein prifysgolion yn addysgu cenedlaethau o ddysgwyr ac yn dod â gwerth gwirioneddol a pharhaol i'n cymunedau. Ond mae'r sector yn wynebu heriau digynsail ac mae'n amlwg na allwn barhau fel yr ydym. Nid yw gwneud dim yn opsiwn ac mae'n rhaid cymryd camau pendant.
"Mae cyfarfod cyntaf y panel adolygu heddiw yn gam cyntaf pwysig yn y daith tuag at system addysg uwch fwy cynaliadwy, ac rwy'n falch ein bod yn gallu manteisio ar gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd yn y maes hwn. Rwy'n ddiolchgar i bob aelod am roi o'u hamser a'u profiad i gyflawni'r dasg hanfodol hon ac mae gen i bob hyder yn eu gallu i lunio gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer y sector mewn amgylchiadau hynod heriol."
Disgwylir adroddiad interim yr adolygiad yn haf 2027, gydag adroddiad terfynol llawn i ddilyn yn y gaeaf canlynol.