Canolfan profi rheilffyrdd newydd o'r safon uchaf yn cael y golau gwyrdd
All signals go: new world-class rail testing centre given green light
Mae cynghorwyr lleol wedi rhoi sêl bendith i gyfleuster profi rheilffyrdd newydd o'r safon uchaf ar hen safle cloddio glo brig ym mhen cymoedd Dulais ac Abertawe.
Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang - cyfleuster profi trenau, rheilffyrdd a thechnoleg - yn cael ei lleoli ar safle glo brig Nant Helen yn Onllwyn, sy'n cael ei weithredu ar hyn o bryd gan Celtic Energy.
Bydd y ganolfan yn darparu gallu unigryw yn y DU ac Ewrop. Bydd yn cefnogi arloesedd yn niwydiant rheilffyrdd y DU ac yn rhyngwladol drwy wasanaethau fel profi technolegau gwyrdd arloesol, a fydd yn sbardun ar gyfer arloesi carlam yn y diwydiant rheilffyrdd.
Bydd yn rhoi Cymru ar y map wrth fod y brif wlad ar gyfer gweithgynhyrchwyr trenau yn y DU ac yn rhyngwladol, gweithredwyr rhwydwaith, y diwydiant ehangach, y gadwyn gyflenwi a'r byd academaidd, i ymchwilio, profi a datblygu technolegau newydd arloesol sy'n sail i ddatgarboneiddio a datblygu ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd byd-eang. Bydd hefyd yn brosiect magned am gyfleoedd newydd pellach, gan ddod â mwy o swyddi o safon a buddsoddiad i'n cymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r syniad ar gyfer y ganolfan o'r newydd ac wedi cysylltu gydag arbenigwyr o bob rhan o'r diwydiant rheilffyrdd byd-eang i ddod â i'r pwynt hwn. Mewn arwydd pellach o hyder Llywodraeth Cymru yn y prosiect, mae'n buddsoddi £50m i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cyfleuster newydd. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi addo buddsoddi £30m yn y prosiect.
Yr wythnos hon, mae aelodau'r pwyllgorau cynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys wedi rhoi sêl bendith terfynol i'r prosiect.
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Rwyf wrth fy modd bod y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang newydd yn Onllwyn wedi cael caniatâd cynllunio gan Gynghorwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys.
"Bydd y ganolfan newydd yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o swyddi o safon uchel, gan ddenu buddsoddiad a chyfleoedd newydd i bobl leol, gyrru technolegau newydd ac arloesedd, a'n helpu i wireddu ein huchelgais o greu economi gryfach a mwy llewyrchus, mewn Cymru wyrddach, lanach a chryfach.
"Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r cyfleuster hwn o'r safon uchaf yn glir. Rydym wedi sicrhau bod £50m ar gael i ddod â'r cyfleuster pwysig hwn i gymoedd Dulais ac Abertawe, fel rhan o gynlluniau ehangach i drawsnewid cymunedau'r cymoedd.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y prosiect yn mynd rhagddo'n gyflym dros y misoedd nesaf."
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys i ddatblygu cynigion ar gyfer y GCRE. Sefydlwyd menter ar y cyd yn 2019 rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau Powys a Chastell-nedd Port Talbot i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau. Mae'r cynigion yn deillio o gydweithio â phartneriaid ac ymgysylltu ac ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid a chymunedau lleol.
Mae cytundeb opsiwn tir wedi'i gwblhau ar gyfer y safle glo brig Nant Helen a golchfa lo Onllwyn, a fydd yn gweld Celtic Energy yn rhoi'r holl dir angenrheidiol ar gyfer y prosiect.