English icon English

Cartrefi Conwy yn prynu safle allweddol yn Llandrillo-yn-Rhos i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel

Cartrefi Conwy acquires key site in Rhos-on-Sea to deliver high-quality affordable housing

Mae Cartrefi Conwy, un o brif ddarparwyr tai cymdeithasol, wedi cyhoeddi eu bod wedi prynu darn allweddol o dir yn Ffordd Dinerth, Llandrillo-yn-Rhos, oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Mae hyn yn paratoi ar gyfer datblygiad tai newydd sydd â'r nod o ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel, i drigolion lleol sydd eu hangen yn fawr.

Mae'r datblygiad yn mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anghenion tai lleol a nodwyd yng Nghynllun Lle Bae Colwyn, gan ganolbwyntio ar dai fforddiadwy ac ail-bwrpasu lleoedd nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio i'w llawn botensial.

Mae gan Cartrefi Conwy hanes cryf o adeiladu cartrefi cynaliadwy wedi'u dylunio'n dda, sydd nid yn unig yn cynnig mannau byw modern ond hefyd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at y gymuned ehangach.

Bydd y cartrefi newydd yn Ffordd Dinerth yn cael eu hintegreiddio'n ofalus i'r ardal leol, gan ategu'r weledigaeth ar gyfer cymdogaeth gysylltiedig, gynaliadwy a chynhwysol. Bydd y datblygiad yn cadw at egwyddorion creu lleoedd, gan sicrhau tai o ansawdd uchel sy'n gwella llesiant, yn hyrwyddo mannau gwyrdd, ac yn cyfoethogi Llandrillo-yn-Rhos.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: "Rwy'n hynod falch o weld ymrwymiad Cartref Conwy i ymgysylltu â'r gymuned ac egwyddorion dylunio cynaliadwy, gan sicrhau bod y cartrefi newydd hyn yn darparu gwerth cymdeithasol ac economaidd i deuluoedd ac unigolion yn Llandrillo-yn-Rhos.

"Mae angen rhagor o gartrefi arnon ni nawr ac ar gyfer y dyfodol ac mae mor bwysig ein bod yn parhau i weithio ac archwilio dulliau arloesol o gynyddu'r cyflenwad tai, ac mae partneriaethau fel hyn yn dangos sut y gallwn ni gyflawni'r nod hwn gyda'n gilydd."

Dywedodd Cyfarwyddwr Grŵp Adnoddau Cartrefi Conwy, Peter Lewis: "Rydyn ni wrth ein boddau bod wedi sicrhau safle Ffordd Dinerth ac edrychwn ni ymlaen at weithio gyda'r gymuned leol i greu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion pobl leol. Mae'r datblygiad hwn yn gyfle gwych i ddarparu tai cynaliadwy mewn ffordd sy'n parchu ac yn gwella'r ardal gyfagos."

Bydd trigolion yng nghyffiniau'r safle'n derbyn taflen wybodaeth ddwyieithog gyda rhagor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth gyswllt a gwasanaethau cymorth.

Yn y dyfodol bydd Cartrefi Conwy yn parhau i weithio'n agos gyda thrigolion, rhanddeiliaid a'r Cyngor Tref i sicrhau bod y datblygiad yn cyd-fynd â dyheadau'r gymuned.

Bydd diweddariadau ar gael drwy wefan Cartrefi Conwy a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

DIWEDD