Caerphilly's Great Hall

Castell Caerffili: cyflawni am flwyddyn gyfan

Caerphilly Castle: one year of wall-to-wall achievements

  • Y niferoedd uchaf o ymwelwyr ers blynyddoedd lawer
  • Gwaith cadwraeth yn parhau, gyda seiri maen dan hyfforddiant yn mireinio eu crefft
  • Tocynnau £1 i bobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol i barhau

Flwyddyn ar ôl ailagor Neuadd Fawr Castell Caerffili, mae castell mwyaf Cymru yn dathlu cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr, cerrig milltir cadwraeth a thocynnau am bris gostyngol i sicrhau mynediad i bawb.

Ail agorodd y Neuadd Fawr fis Gorffennaf diwethaf yn dilyn rhaglen gwerth £8 miliwn o gadwraeth ac adnewyddu gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Yn ystod y deuddeg mis ers hynny, mae Castell Caerffili wedi dod yn un o gyrchfannau treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru, ac mae bellach ymhlith y 5 safle Cadw sy'n denu'r mwyaf o ymwelwyr eleni. Cynyddodd nifer yr ymwelwyr yn dilyn y cam cyntaf hwn o'r gwaith, a oedd hefyd yn cynnwys gwell hygyrchedd, gwelliannau i'r porthdy dwyreiniol mewnol ac agor y dramwyfa llifddor ganoloesol. Maen nhw bellach 20% yn uwch na'r ffigurau ar gyfer y blynyddoedd cyn pandemig Covid.

Yr haf hwn, mae Cadw yn parhau â'r gwaith cadwraeth hanfodol i'r muriau sy'n ffurfio amddiffynfeydd allanol y castell ac yn helpu i gadw'r llynnoedd sy'n ei amgylchynu. Mae contractwyr arbenigol wedi bod yn gweithio ar wal blatfform Argae’r De dros yr wythnosau diwethaf, gydag aelodau o'r cyhoedd yn gallu gweld y tîm ar waith, sy'n defnyddio technegau mynediad drwy raff i gael gwared ar lystyfiant yn ofalus ac ail-bwyntio gwaith cerrig gan ddefnyddio morter calch traddodiadol.

O ddechrau mis Gorffennaf, cymerodd tîm cadwraeth treftadaeth mewnol Cadw, sef Cadwraeth, gyfrifoldeb dros wal blatfform Argae'r Gogledd - gyda'r gwaith yn gyfle gwerthfawr i un o seiri maen dan hyfforddiant newydd Cadw ddatblygu ei sgiliau ar heneb o arwyddocâd cenedlaethol.

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:

"Mae Castell Caerffili yn lle mor arbennig i lawer, ac mae'r deuddeg mis diwethaf wedi dangos faint mae pobl yn gwerthfawrogi gweld cofeb mor wych yn cael ei hadfer a'i hadfywio.

"Mae'r ymateb gan ymwelwyr wedi bod yn wych - o deuluoedd sy'n darganfod straeon canoloesol y castell am y tro cyntaf i gymunedau sy'n ailgysylltu â'u treftadaeth. Mae'n dda gweld bod Caerffili bellach yn un o'n safleoedd Cadw sy'n denu'r nifer mwyaf o ymwelwyr, a bod ein cynllun tocynnau £1 yn helpu mwy o bobl i gael mynediad iddo, waeth beth fo'u hamgylchiadau.”

Mae'r cynllun tocynnau £1 ar gyfer pobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, a lansiwyd hefyd flwyddyn yn ôl, wedi gweld defnydd cryf yng Nghaerffili gyda bron i 1,400 o ymwelwyr yn defnyddio'r cynllun.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Mae'r gwaith cadwraeth y gallwch ei weld yn digwydd ar furiau'r castell ar hyn o bryd - gan gynnwys ein seiri maen dan hyfforddiant yn datblygu eu crefft ar un o henebion mwyaf Cymru - yn brawf o'n hymrwymiad parhaus i ddiogelu'r lle hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Ond ble bynnag ydych chi yng Nghymru, bydd safle anhygoel Cadw o fewn cyrraedd. Byddwn i'n annog pawb i ddarganfod eu safle agosaf, ac ymweld ag ef yr haf hwn."

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer Cam 2 o'r gwelliannau, a fydd yn canolbwyntio ar wella croeso a phrofiad ymwelwyr.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:

"Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn dyst i ymroddiad pawb yn Cadw a'n partneriaid sydd wedi gweithio mor galed i ddod â Chastell Caerffili yn ôl yn fyw.

"Gweld mwy o bobl yn cerdded trwy'r gatiau, darganfod ei straeon a chysylltu â'u treftadaeth, yw'r union reswm pam fod y gwaith hwn yn bwysig.  Mae gofalu am yr heneb ryfeddol hon yn fraint go iawn ac rydym yn gweithio i sicrhau ei bod yn parhau i fod wrth galon ei chymuned am genedlaethau i ddod."

Mae trawsnewidiad y castell yn rhan o raglen ehangach Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035 - partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Thrafnidiaeth Cymru - sy'n anelu at adfywio'r dref a sicrhau bod y castell yn parhau i fod wrth wraidd bywyd cymunedol am genedlaethau i ddod.