Castell Coch yn gwisgo'i goch gorau ar gyfer y Nadolig
Castell Coch is red-y for Christmas
Mae'r sgaffaldiau wedi dod i lawr yn y castell eiconig gan ddatgelu'r coch hanesyddol go iawn – mewn pryd ar gyfer y Nadolig
Mae'r sgaffaldiau sydd wedi gorchuddio Castell Coch ers dros flwyddyn a hanner wedi cael eu tynnu i lawr gan ddatgelu paent coch y castell sydd wedi'i adfer yn sylweddol – yn barod ar gyfer dathliadau poblogaidd y Nadolig.
Roedd y gwaith oedd angen y sgaffaldiau ar ei gyfer ers mis Ebrill 2024 yn rhan o raglen gadwraeth barhaus Cadw yng Nghastell Coch. Ers 2018, mae Cadw wedi gwarchod y waliau allanol a'r simneiau i ddiogelu addurniadau mewnol y castell sy'n arwyddocaol yn rhyngwladol.
Daw'r dadorchuddio hwn mewn pryd ar gyfer digwyddiadau Nadolig y castell, sy'n cynnwys Groto Siôn Corn poblogaidd y castell.
Yn ystod y broses gadwraeth, datgelodd arbenigwyr liw paent coch 'gwreiddiol' y castell, yn dilyn dadansoddiad gwyddonol manwl o samplau paent, sy'n dyddio'n ôl i'r 1880au.
Nododd ymchwilwyr paent pensaernïol hyd at un ar bymtheg o gamau o ailaddurno ers cwblhau'r castell ym 1881. Datgelodd yr ymchwil hwn fod y paent gwreiddiol yn fath oren o goch - yn wahanol iawn i'r coch tywyllach a oedd wedi esblygu dros ddegawdau dilynol o ailbaentio.
Darganfuwyd sampl cyfeirio allweddol o dan y rheilen llaw ar y balconi wrth ymyl Ystafell Wely Lady Margaret yn Nhŵr y Gegin. Roedd man cysgodol wedi cadw olion y cynllun gwreiddiol.
Wedi'i enwi yn 'Coch Castell Coch 2025', bydd Cadw yn defnyddio’r lliw yma o hyn ymlaen i addurno gwaith pren y castell, gan gynnwys ffenestri, drysau, caeadau, ffasgias a gwteri.
Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:
"Mae Castell Coch wedi cyfareddu ymwelwyr ers cenedlaethau gyda'i brydferthwch a'i leoliad rhamantus, ond mae blynyddoedd wedi mynd heibio ers inni allu gweld y coch gwreiddiol a roddodd liw ac enw i'r castell.
"Mae'n dda gwybod pan fydd ymwelwyr yn gweld Castell Coch yn 2026, y byddan nhw'n profi rhywbeth llawer agosach at yr hyn a fwriadwyd 135 mlynedd yn ôl. Mae Castell Coch yn arbennig o hardd dros y Nadolig a rydym yn falch iawn o ail-agor y castell yn llawn yn barod ar gyfer cyfnod yr ŵyl i deuluoedd ei fwynhau."
Gall teuluoedd weld y coch newydd drostynt eu hunain y Nadolig hwn, gyda Siôn Corn yn ôl yn ei groto Nadoligaidd ar gyfer y rhai ifanc. Mae'r sesiynau'n cynnwys mynediad i'r groto, crefftau, pypedwr a'r cyfle i ysgrifennu llythyr at Siôn Corn.
Mae sesiynau ar gael ar wahanol ddyddiadau rhwng 5 a 20 Rhagfyr a rhaid eu harchebu ar-lein ymlaen llaw, ac mae angen prynu tocynnau mynediad i oedolion.