English icon English
26.11.24 mh  DPFM Skenfrith Osbaston sch Floods 34

Cefnogaeth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan Storm Bert

Support for those affected by Storm Bert

Bydd cymorth ariannol ar unwaith yn cael ei ddarparu i bobl y mae eu cartrefi wedi dioddef llifogydd yn ystod Storm Bert.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau lleol i ddarparu grantiau o £1000 i aelwydydd heb yswiriant, neu £500 i aelwydydd yr effeithir arnynt sydd â sicrwydd yswiriant presennol.  

Cadarnhawyd y newyddion yn y Senedd heddiw gan y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies ar ôl dyddiau o ymweliadau â chymunedau a effeithiwyd arnynt gan Storm Bert ledled Cymru.

Wrth annerch ASau yn y Senedd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies: "Y peth cyntaf rydw i am ei wneud heddiw yw estyn fy nghydymdeimlad i'r bobl yr effeithiodd Storm Bert ar eu cartrefi a'u busnesau dros y penwythnos.

"Mae effeithiau llifogydd yn ddinistriol, a gwn y bydd pobl ledled Cymru yn teimlo'n ofidus ac yn bryderus drostynt eu hunain, eu hanwyliaid yr effeithir arnynt, a'u bywoliaeth.

"Mae Storm Bert wedi ein hwynebu unwaith eto gyda'r realiti o beth fydd digwyddiadau tywydd eithafol amlach yn ei olygu i gymunedau ledled Cymru."

Aeth y Dirprwy Brif Weinidog, a oedd wedi ymweld â Phontypridd, Ynysgynwraidd a Chwmtyleri cyn annerch y Senedd, ymlaen i ddiolch i'r gwasanaethau brys, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol ac eraill sydd wedi bod yn gweithio ar yr ymateb i Storm Bert.

"Rwy'n gwybod bod llawer o gymunedau ledled y wlad wedi dod at ei gilydd i weithio ochr yn ochr ag asiantaethau allweddol ac i gefnogi ei gilydd yn yr ymateb ar y cyd," meddai. 

"Mae'r gwaith hwn, dan yr amgylchiadau anoddaf un, i leihau'r effeithiau ar gymunedau ble bynnag y bo modd, o'r pwys mwyaf."

O ganol dydd heddiw, mae awdurdodau lleol wedi adrodd am lifogydd mewnol i gyfanswm o 433 eiddo - 125 yn RhCT, 90 ym Merthyr, 75 ym Mlaenau Gwent, o leiaf 50 yn Nhrefynwy, 50 yng Nghaerffili, 15 yn Nhorfaen, chwech ym Mhowys, chwech yn Sir Gaerfyrddin, tri ym Mhen-y-bont ar Ogwr, tri yn Sir y Fflint, dau yng Nghaerdydd ac un yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £300 miliwn i awdurdodau rheoli risg i'w fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd.

Eleni, mae wedi cynnal y lefelau uchaf erioed o gyllid ac wedi darparu mwy na £75 miliwn i awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru.

Mae hyn yn cynnwys £9.7 miliwn o gyfalaf a £4.95 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer awdurdodau lleol, a £22 miliwn o gyfalaf a refeniw o £24.5 miliwn i Cyfoeth Naturiol Cymru.