Cig Oen Mynyddoedd Cambria yn derbyn Statws Dynodiad Daearyddol y DU
Cambrian Mountains Lamb awarded UK GI Status
Cig Oen Mynyddoedd Cambria yw'r ail gynnyrch Cymreig newydd i ennill statws Dynodiad Daearyddol y DU (GI y DU), yn dilyn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a enillodd y wobr fis diwethaf.
Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi croesawu'r newyddion heddiw ac wedi llongyfarch y grŵp cynhyrchwyr ar eu llwyddiant.
O heddiw ymlaen, dim ond 'Cig Oen Mynyddoedd Cambria' cyfreithlon o'r rhanbarth ellir ei werthu gyda sêl bendith GI y DU.
Cefnogwyd y cais am statws GI y DU gan Lywodraeth Cymru drwy gontract Dynodiad Daearyddol Cymru, a ddarperir gan Menter a Busnes ac a wnaed ar ran Grŵp Cynhyrchwyr Cig Oen Mynyddoedd Cambria.
Daeth y grŵp Cig Oen at ei gilydd yn wreiddiol gan Fenter Mynyddoedd Cambria, prosiect a ysbrydolwyd gan EUB Tywysog Cymru i helpu i gynnal ffermydd ucheldir traddodiadol Cymru a chymunedau gwledig.
Roedd y cymorth hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant y cais.
Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae hyn yn newyddion gwych heddiw ac rwyf am longyfarch y grŵp o gynhyrchwyr ar eu llwyddiant a'u croesawu i deulu Dynodiad Daearyddol Cymru.
"Mae eu cynnyrch gwych yn enghraifft arall o’r bwyd a diod eiconig sydd gan Gymru i'w gynnig.
"Mae nifer o gynhyrchion bwyd a diod cyffrous eraill yng Nghymru yn gwneud cais am statws Dynodiad Daeryddol y DU ar hyn o bryd ac rwy'n edrych ymlaen at weld teulu Dynodiad Daearyddol Cymru yn parhau i dyfu."
Meddai Huw Davies o Fferm Aberdauddwr ac aelod o grŵp y cynhyrchwyr:
"Rydym yn falch iawn o ennill y statws Dynodiad Daearyddol hwn yn y DU; i gydnabod y cynnyrch unigryw rydym yn gynhyrchu yn y bryniau hyn sef 'Cig Oen Mynyddoedd Cambria'. Gyda statws GI y DU, rwy'n gobeithio y bydd y defnyddiwr yn gallu mwynhau Cig Oen Mynyddoedd Cambria am flynyddoedd i ddod."
Mae Cig Oen Mynyddoedd Cambria yn gynnyrch tymhorol. Ar ôl gaeaf yn y dyffryn, mae'r ŵyn yn cael eu bugeilio i fyny i'r bryniau ar gyfer pori hir yr haf ar dir pori naturiol sy'n gyforiog o laswellt a pherlysiau amrywiol. Mae hyn yn cyfrannu at flas Cig Oen Mynyddoedd Cambria ac yn cynhyrchu cig oen mynydd ysgafnach.
Yn ogystal â deiet naturiol yr ŵyn, cânt eu cynhyrchu'n gyfan gwbl o famogiaid sydd naill ai'n ddefaid Mynydd Cymreig yn bennaf neu o fridiau mynydd brodorol traddodiadol eraill o Gymru. Mae hyn yn gwneud i’r cig oen aeddfedu arafach sy'n rhoi mwy o amser i'w flas "tyner a melys" ddatblygu.