Crown Copyright - Visit Wales - Criccieth Castle

Cipio cestyll a holi hanes: plant am ddim ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr

Castle capers and hearty history: kids go free this Owain Glyndŵr Day

Bydd plant a phobl ifanc yn gallu crwydro rhai o gestyll a safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig Cymru am ddim y dydd Sul hwn [13 Medi] fel rhan o ddathliadau i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr.

Caiff ei ystyried fel Tywysog brodorol olaf Cymru, ac mae Owain Glyndŵr yn cael ei anrhydeddu bob blwyddyn ar 16 Medi, y dyddiad y cafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr yn ôl yn 1400.

Mae'r un dyddiad hwnnw hefyd yn nodi dechrau gwrthryfel Glyndŵr, gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Lloegr dan Harri IV a barhaodd am tua 15 mlynedd. Er na chyflawnodd y gwrthryfel ei amcanion terfynol, gadawodd etifeddiaeth o falchder cenedlaethol a hunaniaeth ddiwylliannol sy'n parhau hyd heddiw.

Bydd y cynllun mynediad am ddim yn berthnasol i henebion sy'n cael eu rhedeg gan Cadw ledled Cymru. Roedd llawer o'r rhain - gan gynnwys cestyll Caernarfon, Coety, Dinefwr a Chydweli - unwaith dan warchae yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, gan eu gwneud yn gysylltiadau byw â'r bennod bwysig hon o hanes Cymru.

Mae digwyddiadau hefyd wedi'u cynllunio mewn sawl lleoliad i nodi'r achlysur, gan gynnwys gorymdaith yng Nghastell Harlech, a wasanaethodd fel preswylfa allweddol i Glyndŵr a'i deulu lle cynhaliodd ei senedd ar ôl iddo gael ei gipio rhwng 1404 a 1409. Bydd teithiau tywys mewn gwisgoedd hefyd yng Nghastell Cricieth.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:

"Mae stori Owain Glyndŵr wedi'i blethu i wead hunaniaeth Gymreig, ac mae ei ddylanwad i'w deimlo ledled y wlad hyd heddiw.

"Mae rhoi mynediad am ddim i blant i safleoedd Cadw er anrhydedd iddo yn ffordd wych o ddod â hanes yn fyw i genedlaethau iau. Mae'r cestyll a'r henebion hyn yn llawer mwy nag adeiladau hanesyddol - maen nhw'n storïwyr ynddynt eu hunain, ac mae'n iawn ein bod yn agor eu drysau i bawb wrth i ni fyfyrio ar gyhoeddiad Glyndŵr yn Dywysog Cymru."

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cadw, Dr Kate Roberts:

"Ein gobaith yw y bydd mynediad am ddim i blant dan 17 oed yn ysbrydoli mwy o deuluoedd i ddarganfod beth sydd gan safleoedd Cadw i'w cynnig, a phrofi'n uniongyrchol hanes cyfoethog ac amrywiol Cymru.

"Mae pob safle yn ein gofal yn adrodd ei stori ei hun, ac roedd cymaint ohonynt wedi'u cyffwrdd gan wrthryfel Glyndŵr mewn un ffordd neu'r llall. Er i'w ymgyrch fethu yn y diwedd, mae ei hanes yn dal i atseinio mewn llawer o'r lleoedd rydyn ni'n gofalu amdanynt heddiw."

I gael gwybod mwy, ewch i cadw.llyw.cymru