Codi Pontydd Digidol: Arloesedd Cymru yn gosod y llwyfan ar gyfer Cenhadaeth Masnach a Diwylliant y Gweinidog yn yr Unol Daleithiau
Building Digital Bridges: Welsh Innovation Sets the Stage for Minister’s US Trade and Culture Mission
Bydd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yn teithio i Efrog Newydd a Washington D.C. wythnos yma ar ymweliad trawsatlantig cyntaf Llywodraeth newydd Cymru, gan ddefnyddio dylanwad a chryfder diwylliannol a chreadigol Cymru i greu cyfleoedd newydd ar gyfer masnach, buddsoddi a chydweithio â'r Unol Daleithiau.
Bydd yr ymweliad yn gosod diwylliant, technoleg ac arloesedd wrth wraidd diplomyddiaeth economaidd Cymru, gan arddangos cryfderau'r wlad wrth hyrwyddo Cymru fel cyrchfan o ddewis i fusnesau a buddsoddwyr Americanaidd.
Daw’r ymweliad wrth i'r Unol Daleithiau nodi ei phen-blwydd yn 250 oed, gan roi cyfle i ddathlu'r cysylltiadau hanesyddol dwfn rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau a chyfraniad parhaol pobl a diwylliant Cymru i fywyd America.
Fel rhan o'r dathliadau, bydd y Gweinidog yn cyflwyno rhodd arbennig o gerddoriaeth ar ran pobl Cymru yn Llyfrgell y Gyngres, gan gydnabod yr hanes a rennir rhwng y ddwy genedl.
Codi pontydd digidol
Un o themâu canolog yr ymweliad fydd "Codi Pontydd Digidol", gan ddangos sut y gall creadigrwydd, technoleg a diwylliant Cymru gyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol newydd.
Yn Efrog Newydd, bydd y Gweinidog yn cwrdd â'r actor o Gymro a enwebwyd am Emmy, Matthew Rhys, i drafod sector celfyddydau a chreadigol Cymru yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys y cyfleoedd cynyddol i dalent Cymru feithrin cynulleidfaoedd a phartneriaethau rhyngwladol.
Bydd y Gweinidog hefyd yn cwrdd â chynrychiolwyr o Gotham Center for New York City History yn Fraunces Tavern, sydd wedi gweithio gyda'r cwmni technoleg greadigol o Gymru Sugar Creative ar Echoes of Revolution, prosiect digidol a ddatblygwyd fel rhan o ddathliadau USA250.
Mae'r prosiect yn dangos sut y gall talent ddigidol Cymru ddod ag adrodd straeon, technoleg a chreadigrwydd ynghyd i gysylltu pobl ar draws Môr yr Iwerydd, tra'n rhoi llwyfan i hyrwyddo sectorau technoleg a chreadigol ehangach Cymru i fusnesau, buddsoddwyr a phartneriaid diwylliannol yr Unol Daleithiau.
Yr Unol Daleithiau yw'r farchnad allforio fwyaf i gwmnïau o Gymru a'r ffynhonnell fewnfuddsoddiad fwyaf. Mae’r sectorau technoleg a chreadigol ymhlith y cyfranwyr sy'n tyfu gyflymaf i'r berthynas hon.
Bydd y Gweinidog yn defnyddio'r ymweliad i annog rhagor o fasnach a chydweithredu, tra'n gwneud yr achos dros Gymru fel lle gall cwmnïau Americanaidd fuddsoddi, arloesi a thyfu.
Bydd y rhaglen yn dangos sut y gall cryfderau diwylliannol Cymru agor drysau ar gyfer masnach, buddsoddiad a pherthnasoedd masnachol hirdymor, ac ar yr un pryd â chreu cyfle i dynnu sylw at weithlu medrus Cymru, y sectorau technoleg a chreadigol sy'n tyfu, prifysgolion a hunaniaeth ddiwylliannol unigryw.
Cryfhau diplomyddiaeth economaidd a diwylliannol
Yn Efrog Newydd, bydd y Gweinidog yn cwrdd â Chomisiynydd Masnach y DU i'r Unol Daleithiau ac yn ymgysylltu â busnesau a buddsoddwyr yr Unol Daleithiau sydd â diddordeb yng Nghymru.
Bydd y Gweinidog hefyd yn cynnal Derbyniad Partneriaethau Diwylliannol yn Manhatten, gan ddod â busnesau, sefydliadau diwylliannol a phartneriaid eraill o Gymru a'r Unol Daleithiau ynghyd.
Yn Washington, bydd y Gweinidog yn cwrdd ag aelodau Caucus Cyfeillion Cymru ar Capitol Hill, gan gryfhau cysylltiadau rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau ac archwilio cyfleoedd i ddyfnhau cydweithredu o ran masnach, buddsoddi a diwylliant.
Bydd y Gweinidog hefyd yn ymweld â Chofeb 9/11 yn Efrog Newydd, cyn 25 mlynedd ers yr ymosodiadau, gan dalu teyrnged i'r rhai a gollodd eu bywydau a chydnabod yr undod parhaol rhwng Cymru a phobl yr Unol Daleithiau.
Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog:
"Yr Unol Daleithiau yw un o bartneriaid rhyngwladol pwysicaf Cymru, ac mae'r ymweliad hwn yn gyfle i adeiladu ar y berthynas honno a chreu cyfleoedd newydd i bobl a busnesau yng Nghymru.
"Ein diwylliant yw un o'n hasedau mwyaf. Mae'n rhoi platfform unigryw i ni feithrin perthnasoedd, cychwyn trafodaethau a chreu cyfleoedd economaidd newydd. O gerddoriaeth a'r hanes yr ydym yn ei rhannu i'r dalent ddigidol a chreadigol o'r radd flaenaf a welwn yng Nghymru heddiw, mae gennym stori bwerus i'w hadrodd.
"Wrth i America ddathlu ei phen-blwydd yn 250 oed, byddwn yn dathlu'r cysylltiadau dwfn a pharhaol rhwng ein cenhedloedd, wrth edrych tuag at y dyfodol.
"Rydyn ni eisiau i fusnesau America weld Cymru nid yn unig fel lle y gallant fasnachu ag ef, ond fel lle y gallant fuddsoddi, arloesi a thyfu. Mae'r ymweliad hwn yn ymwneud â chodi’r pontydd digidol, diwylliannol ac economaidd hynny ar gyfer y blynyddoedd i ddod."
Dathlu cysylltiadau Cymreig yng Ngogledd America
Yn dilyn rhaglen Efrog Newydd a Washington, bydd y Gweinidog Heledd Fychan yn teithio i Springfield, Massachusetts, i fynychu Gŵyl Gymreig Gogledd America (NAFOW) rhwng 2 a 6 Medi 2026.
Mae'r ŵyl yn dod â chymunedau Cymreig o bob rhan o Ogledd America at ei gilydd i ddathlu diwylliant, cerddoriaeth, iaith a threftadaeth Cymru. Bydd yn gyfle i'r Gweinidog gwrdd â'r gymuned Gymreig-Americanaidd a dathlu'r cysylltiadau parhaol rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.
Drwy ddigwyddiadau yn Efrog Newydd, Washington a Springfield, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio troi cysylltiadau hirsefydlog yn bartneriaethau diwylliannol, digidol ac economaidd newydd rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.
Nodiadau i olygyddion
- Mi fydd rhaglen y Gweinidog Cabinet yn rhedeg o Ddydd Llun 31ain Awst tan Ddydd Gwener 4ydd Medi.
- Mi fydd y Gweinidog ar gael am gyfweliadau lawr y lein o'r Unol Daleithiau - i wneud cais, ebostiwch: SwyddfaYWasgCorfforaethol@llyw.cymru
- Yn Efrog Newydd, bydd y Gweinidog yn cwrdd â Chomisiynydd Masnach y DU i'r Unol Daleithiau ac yn ymgysylltu â busnesau a buddsoddwyr yr Unol Daleithiau sydd â diddordeb yng Nghymru.
- Bydd y Gweinidog yn cynnal Derbyniad Partneriaethau Diwylliannol ym mhreswylfa Llywodraeth Cymru yn Efrog Newydd, gan ddod â busnesau, sefydliadau diwylliannol a phartneriaid eraill o Gymru a'r Unol Daleithiau ynghyd.
- Bydd y Gweinidog yn cwrdd â'r actor o Gymro Matthew Rhys, sydd wedi'i enwebu am Emmy, i drafod y celfyddydau a sector creadigol Cymreig yn yr Unol Daleithiau.
- Bydd y Gweinidog yn cwrdd â chynrychiolwyr o Gotham Center for New York City History yn Fraunces Tavern, sydd wedi gweithio gyda'r cwmni technoleg greadigol o Gymru, Sugar Creative, ar Echoes of Revolution.
- Yn Washington, bydd y Gweinidog yn cyflwyno rhodd o gerddoriaeth ar ran pobl Cymru yn Llyfrgell y Gyngres fel rhan o ddathliadau USA250.
- Bydd y Gweinidog yn cwrdd ag aelodau Caucus Cyfeillion Cymru ar Capitol Hill.
- Bydd y Gweinidog yn gosod torch wrth Gofeb 9/11 cyn 25 mlynedd ers yr ymosodiadau.
- Bydd y Gweinidog yn mynychu Gŵyl Gymreig Gogledd America (NAFOW) yn Springfield, Massachusetts, sy'n digwydd rhwng 2 a 6 Medi.