English icon English

Cofrestrwch i ddweud eich dweud ar gynllun ffermio Cymru yn y dyfodol

Register to have your say on Wales’ future farming scheme

Mae Llywodraeth Cymru’n annog ffermwyr i gofrestru er mwyn cael dweud eu dweud yng ngham nesaf y broses o gynllunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Cymerodd tua 2,000 o bobl ran yng ngham cyntaf y gwaith cyd-ddylunio.

Cynhelir y cam nesaf hwn yn haf 2022 a gall pobl gofrestru nawr i fod yn rhan o’r broses. Bydd hyn yn cynnig y cyfle iddynt rannu eu barn ar ymarferoldeb y camau gweithredu arfaethedig sy’n sail i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a strwythur a phrosesau’r cynllun ehangach.

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cefnogi ffermwyr i leihau olion troed carbon eu ffermydd, gan helpu i wella’r amgylchedd a chefnogi’r gwaith o gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Plaid Cymru, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu, i gyflwyno cyfnod pontio wrth i'r system taliadau fferm gael ei diwygio. Bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o'r cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod a thu hwnt i dymor y Senedd hon.

Gan weithio gyda'n gilydd, byddwn yn datblygu'r trefniadau tymor hwy ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru – mewn partneriaeth â'r sector – gan gydnabod anghenion penodol ffermydd teuluol a chydnabod cynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol.

Bydd amrywiaeth o ffyrdd i bobl rannu eu barn, gan gynnwys drwy arolygon a gweithdai. Rhoddir rhagor o fanylion am y rhain maes o law.

Mae cam nesaf y gwaith cyd-ddylunio’n rhan o broses barhaus ymgysylltu â ffermwyr a chynrychiolwyr y diwydiant, a fydd yn arwain at ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r cyfnod pontio yng ngwanwyn 2023.

Bwriedir i’r cynllun gael ei lansio yn 2025.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Ym mis Medi, nodais y camau nesaf i gyflwyno system newydd ar gyfer cymorth fferm sy’n talu ein ffermwyr ar gyfer y buddion amgylcheddol y maen nhw’n eu darparu.

“Bydd y cymorth hwn yn allweddol wrth sicrhau cynaliadwyedd a chadernid y sector ffermio yn yr hirdymor a bydd yn cynyddu gwerth bwyd a gynhyrchir yng Nghymru ymhellach yn seiliedig ar eu manylion lleol a chynaliadwy.

“Rwyf bob amser wedi bod yn glir am yr angen i weithio’n agos gyda’n ffermwyr i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed wrth i gymorth gael ei gynllunio yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i’r 2,000 o bobl a gymerodd ran yng ngham cyntaf y broses o gynllunio’r cynllun newydd ac yn eu hannog nhw nawr, a rhagor o bobl, i fynegi eu diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ail gam.

“Mae’r cynllun yn parhau i gael ei ddatblygu a byddwn yn rhannu rhagor o fanylion pan fyddwn yn cyhoeddi’r amlinelliad y flwyddyn nesaf.”

I gofrestru i gael bod yn rhan o ail gam gwaith cyd-ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gall ffermwyr fynegi eu diddordeb ar wefan Llywodraeth Cymru neu siarad â chynrychiolydd eu Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm lleol.