English icon English
Rhosili-5

'Croeso' i bawb! - 'Croeso!' cynnes Cymreig

‘Croeso’ i bawb! - A warm Welsh ‘Welcome!’

Mae Croeso Cymru wedi datgan mai 'Croeso!' fydd thema'r flwyddyn ar gyfer 2025.

Nod y Flwyddyn Groeso a gyhoeddwyd yn rhan o Wythnos Twristiaeth Cymru, yw dathlu'r ffyrdd gwahanol ac amrywiol y gall pobl o bob rhan o'r DU a'r byd deimlo eu bod yn cael croeso pan fyddant yn dod ar wyliau i Gymru.

Mae’r croeso cyfeillgar y mae ymwelwyr yn ei gael yng Nghymru yn rheswm allweddol pam bod llawer yn dewis dychwelyd dro ar ôl tro, sy’n dyst i ddiwylliant Cymru a'i phobl, a’r hyn sydd wedi dylanwadu ar Croeso Cymru i ddewis thema 'Croeso' ar gyfer 2025.

O feiciau symudedd ar gyfer archwilio mynyddoedd, i gyfleusterau newid sydd wedi'u haddasu'n arbennig ar draethau eiconig, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn helpu i sicrhau bod harddwch trawiadol Cymru yn agored ac yn estyn croeso i fwy o bobl nag erioed.

Mae cronfa’r Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £5 miliwn mewn 29 prosiect ar gyfer 2023 i 2025 i gefnogi awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i ddarparu gwelliannau sy'n canolbwyntio ar dwristiaeth a fydd o fudd i ymwelwyr a chymunedau lleol.

Ddoe [Dydd Iau 18 Gorffennaf] agorwyd cyfleuster arbenigol newydd Changing Places ym Mae Rhosili, a fydd yn gwneud y lleoliad syfrdanol yn fwy hygyrch. Fe’i ariannwyd gan gronfa’r Pethau Pwysig.

Mae Surfability, sefydliad syrffio sy'n darparu gwersi a phrofiadau syrffio i bobl ag anghenion ychwanegol wedi elwa o'r blaen ar gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi anghenion syrffwyr – gan ganiatáu i bawb fanteisio i'r eithaf ar syrffio wrth gael profiad diogel a phleserus.

Dywedodd Ben Clifford, Cyfarwyddwr a Phrif Hyfforddwr Surfability:

"Yn fuan ar ôl lansio Surfability ym Mae Caswell, sylwon ni ar broblemau o ran cyfleusterau newid a thoiledau addas. Hyd yn oed o wybod na allent newid na mynd i'r toiled gydag urddas, roedd ein syrffwyr yn dal i fod eisiau dod.

"Mae nifer bach o bobl sydd â phroblemau symudedd wedi profi diffyg preifatrwydd wrth geisio gwisgo siwt wlyb ac wedi gorfod mynd ar y llawr mewn toiled neu yn y maes parcio i wneud hynny - roedd yn amlwg bod angen cyfleuster Changing Places priodol.

"Daeth menyw leol anhygoel â'i mab i syrffio gyda ni a dechrau ar yr ymgyrch i osod cyfleuster Changing Places yn Caswell. Mewn gwirionedd, dim ond oherwydd ei dyfalbarhad hi y mae'r cyfleuster yn bodoli yn Caswell.

"Ar ôl i'r newyddion ledaenu bod gan Caswell gyfleuster Changing Places a bod cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth ar gael, fe ddechreuon ni gael pobl yn ymweld o bob rhan o'r DU!

"Mae angen dewrder i syrffio a gall fod yn brofiad newydd mawr. Mae gwybod bod eich anghenion yn mynd i gael eu diwallu a bod newid a mynd i'r toiled yn mynd i fod mor hawdd â phosibl yn golygu y gall ein myfyrwyr ganolbwyntio ar y gweithgaredd yn unig."

Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, Jack Sargeant:

"Bydd Blwyddyn Groeso 2025 yn cryfhau'r croeso Cymreig unigryw y gall unrhyw un ei ddisgwyl wrth ymweld â'n gwlad brydferth, waeth beth maen nhw wedi dod yma i'w fwynhau.

“Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi i’m rôl newydd, yn enwedig pa fo’r tymor twristiaeth ar ei anterth ac rwy’n edrych ymlaen at weld a chlywed y cynlluniau ar gyfer eleni a 2025.

“Mae’r economi ymwelwyr yn hanfodol i bob rhan o’n cenedl – gan gyflwyno £3.8biliwn y flwyddyn a chyflogi dros 150,000 o bobl ar draws Cymru.”

"Mae mor bwysig bod profiad pob ymwelydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu croeso i bawb, er enghraifft ym mhenrhyn Gŵyr, rydym yn cael gwared ar rwystrau a allai atal pawb rhag mwynhau eu hamser i'r eithaf. Mae cronfa’r Pethau Pwysig wedi trawsnewid hyn.

"Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo a hwyluso ein hystod o brofiadau unigryw, ac sydd heb un amheuaeth yn rhai Cymreig, i mwy a mwy o ymwelwyr ar draws Cymru, a’r Croeso y gall pawb ei ddisgwyl."

Yn 2023, cawsom dros 8.5 miliwn o ymwelwyr o wledydd Prydain, ynghyd ag 892,000 o ymwelwyr rhyngwladol.

Mae Bluestone, man gwyliau yn Sir Benfro, yn edrych ymlaen at hyrwyddo'r Flwyddyn Groeso. Gyda lle i tua 1,400 ar unrhyw un adeg, maent eisoes yn gyfarwydd iawn â darparu croeso Cymreig unigryw.

Dywedodd Rebecca Rigby, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bluestone Resort:

"Mae'r Flwyddyn Groeso yn atgof hyfryd bod Cymru'n wlad i bawb. Yma yn Bluestone, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod yr holl westeion yn teimlo'r croeso Cymreig cynnes hwnnw ac yn darganfod eu 'hwyl' drwy eu hanturiaethau unigryw eu hunain. Rydym yn credu y dylai pawb gael blas ar hud Cymru."

Nodiadau i olygyddion

Mae chwarter twristiaeth teithiau dros nos a dydd yng Nghymru gan drigolion Prydain yn cynnwys rhywun ag amhariad. Mae tua £5.45 biliwn yn cael ei wario gan ymwelwyr dros nos domestig lle mae gan aelod o'r parti amhariad ar draws y DU, sy'n cynrychioli tua £440 miliwn yng Nghymru.

Yn ddiweddar, ymwelodd Karen Harris, o Abertawe, â Bannau Brycheiniog i roi cynnig ar feic tir newydd y Parc Cenedlaethol.  Wedi'i ddarparu gan gyllid y Pethau Pwysig, gellir llogi'r beic symudedd pedair olwyn am ddim o ganolfan ymwelwyr y parc ac mae'n galluogi mynediad i un o fannau gorau'r ardal, Mynydd Illtyd.

Dywedodd Karen, eiriolwr brwd dros sicrhau bod gan bobl anabl fynediad i gefn gwlad:

"Mae gen i fy sgwter symudedd fy hun, ond oherwydd natur y tir comin o amgylch y Ganolfan Ymwelwyr ni fydd yn caniatáu i mi gael mynediad iddo. Byddai hyn yn wir am y mwyafrif o ymwelwyr â phroblemau symudedd.

"Mae'r beic yn fwy addas ar gyfer y tir comin serth ac anwastad o amgylch Canolfan Ymwelwyr y Parc yn Libanus ac mae'n galluogi llawer mwy o bobl sydd â phroblemau symudedd i gael mynediad i'r cefn gwlad hardd a'r safleoedd hanesyddol yma. Gallant fwynhau amser o ansawdd yn yr awyr agored gyda theulu a ffrindiau yn hytrach na chael eu gadael yn y maes parcio neu'r caffi. I eraill, efallai y bydd yn eu galluogi i fwynhau hobïau fel ffotograffiaeth, gwylio adar ac ati, ac yn bwysicaf oll yw'r budd i'w hiechyd meddwl drwy allu cael mynediad i gefn gwlad."

Foto: Karen yn defnyddio un o'r beiciau oddi ar y ffordd sydd ar gael o Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog