Croeso i Gymru! Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i lansio profiad metafyd
Croeso i Gymru! Wales becomes first UK nation to launch metaverse experience
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i lansio yn y metafyd, gan roi blas i ymwelwyr rhithwir o bob cwr o'r byd o'r hyn y gallant ei ddarganfod yno.
Mae'r profiad ymgolli wedi ei greu gan Croeso Cymru i ysbrydoli twristiaid y dyfodol drwy arddangos yr ystod o brofiadau, lleoedd ac atyniadau sydd ar gael ledled Cymru yn y byd go iawn.
Gall ymwelwyr lywio'r dirwedd a ysbrydolwyd gan Gymru fel fersiwn rithwir o'u hunain, wrth gael cipolwg ar ddiwylliant a threftadaeth y wlad trwy ystod o nodweddion.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Castell hanesyddol gyda map cudd o Gymru i'w ganfod yno
- Taith car cebl - yn debyg i'r un yn Llandudno - i ymwelwyr deithio o un ochr o'r metafyd i'r llall
- Amffitheatr, fel yr un a safai yng Nghaerllion yn yr oes Rufeinig, gyda sgriniau yn arddangos uchafbwyntiau cerddorol a diwylliant Cymru.
Mae 600 miliwn y flwyddyn yn ymweld â'r metafyd yn fyd-eang ar draws nifer o lwyfannau, gydag un Cymru ar y llwyfan Spatial. Mae'r gofod digidol hwn yn ychwanegu at y ffyrdd cynyddol y mae Cymru'n eu defnyddio i hysbysebu ei hun i ddarpar ymwelwyr.
Yn ogystal â bod y wlad gyntaf yn y DU i fod yn y metafyd, credir mai Cymru hefyd yw'r wlad Ewropeaidd gyntaf i fynd â'r dull arloesol hwn o hysbysebu ei hun i ymwelwyr trwy 'fyd' o'r fath.
Gall unrhyw un sy'n mynd i mewn i fetafyd Cymru wneud tasgu hefyd, gan gynnwys casglu dreigiau sydd wedi'u cuddio ar draws yr 'ynys', ac adeiladu taith ryngweithiol rithwir sy'n arddangos lleoedd go iawn i aros, atyniadau a digwyddiadau.
Cynhaliodd Steffan Powell, gohebydd gemau a diwylliant cyntaf erioed BBC News, ddigwyddiad lansio rhithwir yr wythnos ddiwethaf [dydd Iau 9 Mai].
Meddai Steffan:
"Does dim byd yn eich paratoi ar gyfer y teimlad hwnnw pan fyddwch yn sefyll ar ben Pen y Fan am y tro cyntaf yn mwynhau y golygfeydd, neu grwydro twyni tywod Three Cliffs Bay a gweld y tonnau yn torri ar y lan. Trwy ddefnyddio’r dechnoleg hon, bydd y profiad hwn o Gymru’r metafyd yn rhoi blas i ymwelwyr posibl o’r holl bethau cyffrous y gallwch eu gweld a’u gwneud ar wyliau yng Nghymru.
"Dyma gyfle gwych i hyrwyddo Cymru i’r byd a dull arloesol o agor llygaid miliynau o bobl o bosib i brydferthwch Cymru.”
Yn ogystal â Metafyd Cymru, mae Croeso Cymru gan Lywodraeth Cymru yn defnyddio hysbysebion ar hysbysfyrddau ym myd rhithwir Roblox. Yn debyg iawn i'r byd go iawn, mae'r hysbysebion hyn yn cyrraedd pobl mewn lleoliadau poblog a gweladwy, yn un o'r cymunedau metafyd mwyaf yn y byd.
Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:
"Mae Metafyd Cymru wedi'i greu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd - ble bynnag y bônt yn y byd - a'u hysbrydoli i ymweld â'n gwlad anhygoel go iawn. Drwy arddangos rhai o'r pethau gorau sydd gan Gymru i'w cynnig i ymwelwyr yn y ffordd hynod arloesol hon, rydyn ni'n rhoi Cymru mewn byd ar-lein ble y mae miliynau o bobl eisoes yn cyfarfod bob dydd."
Mae'r byd yng Nghymru wedi ei greu mewn partneriaeth â phenseiri Meta o Abertawe, iCreate.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Mae lansio Cymru i'r metafyd hefyd wedi creu cyfle gwych i arddangos yr ystod eang o sgiliau a busnesau sy'n falch o weithio yng Nghymru, fel iCreate. Mae'n arddangosfa wych o arbenigedd digidol yn gweithio'n ddi-dor i hyrwyddo ein diwydiant twristiaeth."
Dywedodd sylfaenydd iCreate, Dawn Lyle:
"Ein nod yw dod â phosibiliadau diddiwedd Cymru yn fyw mewn profiad ymgolli o grwydro, gan helpu cynulleidfaoedd i gynllunio eu taith ddelfrydol yng Nghymru wrth iddynt gwblhau tasgau bach yn y metafyd.
"Mae Cymru yn rhagori yn y maes arloesi a thechnoleg. Rydym yn teimlo'n gyffrous i fod yn rhan o'r fenter hon, gyda'r gofod rhithwir yn agor posibiliadau newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd."
Mae Metafyd Croeso Cymru ar agor i'r cyhoedd, ac mae'n hygyrch trwy ffonau clyfar, llechen, gliniadur, cyfrifiadur, a thrwy glustffonau Meta Quest.
I grwydro Cymru yn y Metafyd, ewch i visitwales.com/metaverse
Nodiadau i olygyddion
Beth yw metafyd?
Yn fyr, dyma'r genhedlaeth nesaf o brofiadau ar-lein. Mae'n rhwydwaith gweledol o wahanol fydoedd digidol a rennir sydd fel arfer yn cael eu llywio gan ddefnyddio realiti rhithwir (VR) a realiti estynedig (AR).
Mae'n ffordd o gymdeithasu, cydweithio, chwarae gemau, gweithio a mwy.
Beth yw Metafyd Cymru?
Mae Metafyd Cymru yn ofod cysyniadol tebyg i Gymru, sy'n dangos sawl lle a phrofiad y gallech ddod o hyd iddynt yn bersonol.
Beth allwch chi ei wneud yn Metafyd Cymru?
Gallwch grwydro'r metafyd trwy avatar; cwblhau tasgau rhithwir megis dod o hyd i ddreigiau; mynd ar deithiau rhyngweithiol rhithwir sy'n cynnwys lleoedd i aros, atyniadau a digwyddiadau; a 'chreu' taith ddelfrydol.
Pam gafodd Metafyd Cymru ei greu?
Crëwyd Metafyd Cymru i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd - ble bynnag y bônt yn y byd - a'u hysbrydoli i ymweld â Chymru 'go iawn' drwy arddangos rhai o'r pethau gorau sydd gan Gymru i'w cynnig, a'u helpu i gynllunio eu taith.
Mae strategaethau marchnata Croeso Cymru yn canolbwyntio ar wybodaeth ac ymchwil, gyda'r llwyfan arloesol a chreadigol newydd hwn yn gyfle delfrydol i ymgysylltu gyda a denu cynulleidfaoedd newydd.
Sut all pobl fynd i Metafyd Cymru?
Mae Metafyd Cymru ar gael trwy ffôn clyfar, llechen, gliniadur, cyfrifiadur, a thrwy glustffonau Meta Quest trwy visitwales.com/metaverse
Bydd Metaverse Cymru yn mynd yn fyw ddydd Llun 13 Mai 2024.