Team Wales were given a warm welcome home at the Senedd today (Credit: Matthew Horwood)

Croeso mawr i arwyr Gemau'r Gymanwlad wrth ddychwelyd adref

Wales’ Commonwealth Games heroes celebrated at homecoming

Cafodd arwyr Tîm Cymru groeso cynnes heddiw (dydd Iau 6 Awst) yn ystod digwyddiad arbennig i anrhydeddu a dathlu llwyddiant y genedl yng Ngemau'r Gymanwlad.

Ymgasglodd athletwyr o flaen torf yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn dilyn Gemau llwyddiannus Glasgow, lle sicrhaodd cystadleuwyr Cymru 31 medal - sef 9 medal aur, 10 arian a 12 efydd.

Daeth y derbyniad ffurfiol â phennod gofiadwy arall yn hanes chwaraeon Cymru i ben gan roi cyfle i'r cyhoedd ddangos eu cefnogaeth a diolch i'r athletwyr – a phob aelod o ddirprwyaeth Tîm Cymru – am eu cyfraniad.

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:

"Mae Tîm Cymru unwaith eto wedi dangos i'r byd beth mae ein cenedl yn gallu ei wneud. Gwnaeth pob athletwr a wisgodd grys Cymru yn Glasgow hynny gyda balchder a dawn, a dwi am longyfarch pob un ohonynt.

"Nid trwy rifo medalau yn unig y mae mesur llwyddiant yn y Gemau hyn. Mae pob athletwr a dorrodd record bersonol, a wnaeth gystadlu am y tro cyntaf ar y llwyfan ryngwladol, neu a drechodd anawsterau i gynrychioli Cymru, wedi bod yn destun balchder i’w gwlad.

"Dwi hefyd eisiau diolch i'r hyfforddwyr, staff cymorth, swyddogion, gwirfoddolwyr a theuluoedd am eu hymroddiad a'u hymrwymiad. Mae'r cyfraniad hwn, yn aml y tu ôl i'r llenni, yr un mor bwysig.

"Mae Tîm Cymru unwaith eto wedi dangos y talent, yr uchelgais a'r penderfyniad sy'n bodoli ar draws chwaraeon Cymru, a dwi'n gwybod y bydd eu gorchest yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf."

Roedd athletwyr a phara-athletwyr yn cynrychioli Cymru mewn deg camp, a dyma'r nifer fwyaf o bara-athletwyr i gystadlu erioed dros Dîm Cymru.

Enillwyd medalau ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys nofio, beicio, athletau, bocsio, gymnasteg, codi pwysau a bowlio, gan ddangos dyfnder ac ehangder y talentau yn chwaraeon Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:

"Am Gemau i Dîm Cymru. Mae gweld ein hathletwyr a'n para-athletwyr yn cystadlu gyda'r fath ddawn, angerdd a phenderfyniad wedi bod yn destun balchder anferth i'r wlad.

"Y tu hwnt i'r medalau, yr hyn sy'n fy nharo fwyaf yw'r ffordd y mae'r athletwyr yn ysbrydoli eraill. Maen nhw'n dangos i bobl ifanc Cymru beth sy'n bosibl pan fydd talent yn cyd-fynd â gwaith caled a chefnogaeth, a dwi'n gobeithio y bydd eu llwyddiant yn annog mwy ohonom i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ein cymunedau. Mae gennych bob rheswm i fod yn falch.

"Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yng Nghymru, o bob oed ac o bob cefndir, yn cael elwa ar fanteision chwaraeon drwy gydol eu hoes. Mae dyddiau fel heddiw yn ein hatgoffa pam mae'r ymrwymiad hwnnw mor bwysig."