English icon English
Carers2 (2)

Cronfa £3m newydd yn cael ei lansio i alluogi gofalwyr di-dâl i gael egwyl haeddiannol

New £3m respite fund launched to give unpaid carers a well-earned break

Heddiw, cyhoeddodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fod cronfa newydd gwerth £3m yn cael ei sefydlu er mwyn galluogi’r fyddin fach o ofalwyr di-dâl yng Nghymru i gael seibiant neu egwyl fer.

Wrth siarad yn ystod Wythnos y Gofalwyr, dywedodd Julie Morgan y bydd y gwasanaethau seibiant sydd ar gael yn cael eu hymestyn diolch i’r gronfa newydd, a bydd eu hansawdd yn gwella. Bydd hyn yn helpu i gefnogi’r gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud bob dydd gan ofalwyr di-dâl. 

Nid yw un math o wasanaeth seibiant yn addas i bawb. Bydd y gronfa ar gael i gynnig cymorth hyblyg i ddiwallu anghenion gofalwyr unigol drwy ddulliau arloesol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a fydd yn cynnwys cymorth wyneb yn wyneb a chyfleoedd i gymryd egwyl fer. O ganlyniad, bydd gofalwyr di-dâl yn cael eu cefnogi i elwa ar gyfnodau rheolaidd i ffwrdd o’u trefniadau neu gyfrifoldebau gofalu.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Gall yr effaith y mae gofalu yn ei chael, yn gorfforol ac yn emosiynol, fod yn ddigon i lethu rhywun. Mae gofalwyr di-dâl ym mhob cwr o Gymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas, ac maen nhw wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn ystod y pandemig. Maen nhw’n aml wedi ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau, gan gymryd llai o egwyl hefyd.

“Gall gwasanaethau seibiant gynnig achubiaeth a bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael egwyl fer o’u cyfrifoldebau gofalu.

"Nid yw gofalwyr di-dâl yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu gan gymdeithas ac mae’n hanfodol ein bod ni’n eu helpu nhw i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.”

Mae gan tua 12% o bobl yng Nghymru gyfrifoldebau gofalu – mae llawer iawn ohonynt yn ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn heb dderbyn unrhyw gymorth. Dywedodd y rheini a ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, fod eu lefelau straen a gorbryder wedi cynyddu oherwydd nad oedd gwasanaethau seibiant ar gael iddynt pan oedd y pandemig yn ei anterth. Nid oeddent ychwaith yn gallu mynd allan am y diwrnod, na gadael eu cartref am ychydig o oriau hyd yn oed.

Bydd y gronfa £3m yn cael ei chyflwyno mewn dau gam. Ar gyfer cam cyntaf y gronfa, bydd awdurdodau lleol yn cael £1.75m i fodloni’r twf sydyn a ragwelir yn y galw am wasanaethau seibiant. Ar gyfer yr ail gam, bydd £1.25m yn cyllido cronfa i Gymru gyfan ar gyfer galluogi pobl i gael egwyl fer.

Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Gofalwyr Cymru:

“Rydyn ni’n croesawu’r cyllid hwn yn fawr, yn arbennig o ystyried yr effaith sylweddol y mae’r pandemig wedi’i chael ar filoedd o ofalwyr di-dâl. Mae gofalwyr wedi bod yn dweud ers blynyddoedd lawer fod angen gwella’r cymorth gofal seibiant a ddarperir, a hyblygrwydd y cymorth hwnnw, yn sylweddol. Mae hwn yn ddechrau pwysig i ddatblygu’r cymorth seibiant y mae gofalwyr yng Nghymru yn ei haeddu.”