Cryfder cwmniau o Gymru yn Sioe Awyr Paris
Welsh show of strength at Paris Airshow
Mae diwydiannau awyrofod ac amddiffyn Cymru gwerth £3.7 biliwn yn mynd o nerth i nerth, gyda thua 285 o gwmnïau bellach yn cynhyrchu yn y wlad, meddai Llywodraeth Cymru.
Wrth ymweld â sioe awyr fawreddog Paris, atgyfnerthodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r sectorau awyrofod ac amddiffyn cysylltiedig.
Gyda'i gilydd, mae sectorau awyrofod ac amddiffyn Cymru yn cefnogi 16,000 o swyddi, gyda throsiant o dros £3.7 biliwn, ac yn cyfrannu tua £1.5 biliwn mewn GYC i economi Cymru.
Mae gan wyth o'r un ar ddeg o gwmnïau awyrofod ac amddiffyn byd-eang gorau'r byd yn weithrediadau mawr yng Nghymru, gan gynnwys: Airbus, RTX (Raytheon gynt), General Dynamics, GE Aerospace, BAE Systems, Safran, Rolls Royce a Thales.
Wrth siarad fel rhan o'r digwyddiad wythnos o hyd ym Mharc des Expositions de Paris-Le Bourget, tynnodd Ysgrifennydd y Cabinet sylw at alluoedd allweddol y wlad yn y sector awyrofod a'i chefnogaeth i dwf mewn cynhyrchu offer a thechnolegau amddiffyn, gan bwysleisio'r cyfleusterau sefydledig, y gweithlu medrus, a'r cadwyni cyflenwi cadarn sydd eisoes ar waith ledled Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:
"Mae gan Gymru sgiliau o'r radd flaenaf yn y sectorau amddiffyn ac awyrofod ac mae Sioe Awyr Paris yn llwyfan byd-eang i godi proffil Cymru ymhellach fel canolfan ddeinamig ar gyfer mewnfuddsoddi.
"Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ar gyfer cwmnïau Cymru a'u cefnogi i greu swyddi newydd yn niwydiannau'r dyfodol."
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau fod Cymru yn elwa o'r gwariant ychwanegol yn y sector amddiffyn, gan fynychu DSEI yn Japan yn ddiweddar ac yn fuan bydd yn mynd â dirprwyaeth o gwmnïau i DSEI yn Llundain ym mis Medi.