Cwmni coffi o Gymru yn sicrhau cytundeb newydd yn yr Unol Daleithiau a Chanada
Brew-tiful! Welsh coffee company secures new USA and Canada contract
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi llongyfarch Ferrari's Coffee ym Mhen-y-bont ar ôl i'r cwmni sicrhau cytundeb newydd fydd yn gweld eu cynnyrch ar gael yn yr UDA a Chanada y flwyddyn nesaf.
Aeth y Gweinidog i weld y cyfleusterau a chlywed sut mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi helpu'r cwmni i sicrhau cytundeb sylweddol i gyflenwi tri o'i gynnyrch i fanwerthwr mawr ar draws yr Iwerydd.
Daw'r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi yn ddiweddar bod allforion gan fusnesau yng Nghymru wedi adfer y tu hwnt i lefelau a welwyd cyn y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i fod yn ddiwyro yn ei huchelgais i ysgogi twf pellach mewn allforion Cymreig.
Cafodd Ferrari eu cytundeb yn SIAL Paris, un o arddangosfeydd arloesedd bwyd mwyaf y byd ym Mharis ym mis Hydref. Yn mynychu fel rhan o Bafiliwn Llywodraeth Cymru, roedd Ferrari's Coffee ymhlith y cynhyrchwyr o Gymru, a gymerodd y cyfle i gyfarfod â phrynwyr a dosbarthwyr o bob cwr o'r byd, sy'n gobeithio sicrhau cyfleoedd busnes newydd.
Un o'r cynhyrchion sy'n gwneud ei ffordd i'r UDA a Chanada yw'r 'Piacentia' sef rysáit gwreiddiol y cwmni sydd wedi aros yr un fath ers bron i 90 mlynedd. Y ddau gynnyrch arall yw'r ffa coffi 'Siena' a 'Mocha Italia'.
Dywedodd Yash Dhutia, Rheolwr Gyfarwyddwr Ferrari's Coffee: "Rydym wrth ein boddau i dderbyn y contract tramor hwn i gyflenwi ein coffi yn UDA a Chanada ar ôl cyfarfod â phrynwr o fanwerthwr mawr yn SIAL. Mae llawer o waith wedi mynd i gyflawni'r archeb gyntaf ac rydym yn gobeithio y bydd yn cyrraedd y silffoedd ym mis Chwefror neu fis Mawrth y flwyddyn nesaf.
"Mae'n hwb mawr i’n hyder ni fel cwmni, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth. Mewn gwirionedd, fydden ni ddim wedi mynychu'r digwyddiad heb eu cymorth."
Symudodd Yash Dhutia, ynghyd â'i wraig a'i blant i Gymru a phrynu Coffi Ferrari ym mis Awst 2018, ond maent wedi cadw'r un cyrchu a thraddodiadau rhostio a nodwyd gan sylfaenydd gwreiddiol y cwmni, Vittorio Ferrari. Mae'r cwmni wedi bod yn rhostio coffi â llaw yng Nghymru ers 1927.
Yn SIAL, gwnaethant arddangos eu pecynnau newydd wedi'u hailgylchu 100% a bagiau ailgylchadwy newydd. Mae gan Ferrari’s hefyd gytundeb masnach uniongyrchol gyda ffermwyr yn Uganda sy’n rhan bwysig o Raglen Plannu Coed Mbale, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy’n anelu at blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae hwn yn llwyddiant gwych i Ferrari's Coffee ac rwy'n falch iawn bod Rhaglen Masnach Ryngwladol Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru wedi gallu eu cefnogi.
"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod ansawdd bwyd a diod yng Nghymru cystal â'r gorau yn y byd ac mae angen inni sicrhau ei fod hyn yn cael ei gydnabod.
"Mae sicrhau marchnadoedd allforio newydd, yn ogystal â chynnal ac adeiladu ar y rhai presennol, yn hollbwysig ar gyfer dyfodol diwydiant bwyd a diod Cymru.
"Rwy'n falch o gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru yn ein digwyddiadau byd-eang sy'n ailddatgan ein hymrwymiad i godi ein proffil rhyngwladol a chefnogi ein busnesau."