Cyfraith nodedig yn rhoi pŵer i bleidleiswyr ddiswyddo Aelodau o'r Senedd
Landmark law gives voters power to remove Members of the Senedd
Mae'r Senedd wedi cymryd cam sylweddol i gryfhau atebolrwydd democrataidd ymhellach drwy basio Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
Am y tro cyntaf, bydd pobl Cymru yn gallu diswyddo eu Haelod o'r Senedd rhwng etholiadau.
Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys system adalw gyda dau ddigwyddiad sbardun clir:
- adalw awtomatig ar gyfer unrhyw Aelod sy'n cael dedfryd o garchar o unrhyw hyd (gan gynnwys dedfryd ohiriedig); ac
- adalw yn ôl disgresiwn pan fo'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn argymell bod Aelod yn cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol, yn amodol ar bleidlais o fwyafrif yn y Senedd.
Bydd system safonau bresennol y Senedd hefyd yn cael ei chryfhau. Bydd gofyniad cyfreithiol i bob Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a allai gynnwys aelodau lleyg annibynnol i gyfrannu arbenigedd allanol ac annibynnol at broses safonau'r Senedd.
Bydd y Comisiynydd Safonau yn cael pwerau ychwanegol i ymchwilio i bryderon am ymddygiad Aelodau.
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn mynd i'r afael â dichell fwriadol mewn etholiadau, gan roi dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth nesaf Cymru i wahardd datganiadau anwir yn y rheoliadau sy'n llywodraethu etholiadau i'r Senedd.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James: "Am y tro cyntaf, bydd gan bobl yng Nghymru y pŵer i ddiswyddo Aelod o'r Senedd sydd wedi torri'r rheolau yn ddifrifol. Rwy'n credu bod hynny'n union fel y dylai fod mewn democratiaeth iach ac atebol.
"Mae'r Bil hwn wedi'i adeiladu ar sylfaen gadarn o waith trawsbleidiol ac argymhellion trylwyr, sy'n seiliedig ar dystiolaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau ar draws y siambr am eu rhan adeiladol drwy gydol y broses hon.
"Rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad i roi deddfwriaeth sylfaenol ar waith cyn i'r Senedd hon ddod i ben. Bydd y Seithfed Senedd nawr yn bwrw ymlaen â'r gwaith gweithredu sy'n weddill, ac rwy'n hyderus y bydd democratiaeth Cymru yn gryfach o'r herwydd."