English icon English
Minibuds 3-2 cropped

Cyfres deledu addawol yn egino o Gymru

Budding TV series sprouts from Wales

Mae cyfres i blant gan gwmni animeiddio Cymreig sy'n annog cynulleidfaoedd ifanc i ymddiddori mewn natur a'r byd o'u cwmpas wedi cael ei dewis i'w darlledu gan rai o brif ddarlledwyr y DU, gan gynnwys S4C ac ITV.

Gyda chymorth asiantaeth Cymru Greadigol Llywodraeth Cymru, bydd sioe deledu newydd Bumpybox o dan deitl gwaith Mini Buds / Egin Bach, ar gael yn Gymraeg ar S4C a Saesneg ar ITV. Mae gan y gyfres hefyd y potensial i gael ei dosbarthu'n fyd-eang.

Mae'r 26 episod pum munud o Mini Buds / Egin Bach yn archwilio anturiaethau mawr chwe fforiwr bach uchelgeisiol sy'n ceisio dod o hyd i'w ffordd drwy wylltir eang gardd gefn fechan. Mae pob stori yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar amgylchedd yr ardd fel blodau a hadau, y pryfed a'r chreaduriaid sy'n byw yno a'r tywydd fel y glaw neu'r heulwen.

Mae creu Mini Buds / Egin Bach wedi ehangu tîm Bumpybox o 4 i 12, gan sicrhau swyddi am 12 mis. Bydd llwyddiant y gyfres yn gwella cynaliadwyedd y cwmni ac yn cryfhau ei hanes ymhellach fel cwmni cynhyrchu enwog.

Gydag enw da mewn animeiddio rhaglenni plant, mae Bumpybox wedi creu dros 75 episod o My Petsaurus ar gyfer sianel blant benodedig y BBC, Cbeebies.

Mae'r tîm hefyd yn aros i Kensuke Kingdom, gan Michael Morpurgo, gael ei ryddhau mewn theatrau a fydd yn arddangos Cillian Murphy a Sally Hawkins. Ymunodd Bumpybox â'r tîm cynhyrchu fel partner animeiddio, gan ddarparu eu harbenigedd mewn CGI, lliwio a chyfansoddi.

Dywedodd Sam Wright, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Bumpybox o Gaerdydd:

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Mini Buds / Egin Bach ers amser maith, dechreuodd fel syniad pan oeddem yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru dros 13 mlynedd yn ôl. Mae'n anhygoel y byddwn, gyda chymorth Cymru Greadigol, yn gallu dod â hyn o'r diwedd i gynulleidfaoedd.

"Mae'r cynhyrchiad yn golygu llawer i'n cwmni gan y bydd yn ein galluogi i ehangu ein staff, cynnig hyfforddiant i animeiddwyr newydd, gweithio gyda phartneriaid darlledu newydd a gwerthu dramor gan gynyddu rhagolygon ein busnes yn fawr. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl gymorth a gawsom wrth gyrraedd y cam hwn."

Dywedodd Sarah Murphy, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol:

"Mae'r diwydiant animeiddio yn flaenoriaeth allweddol i Gymru Greadigol ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r datblygiad newydd cyffrous hwn gan y tîm yn Bumpybox.

"Mae'n newyddion gwych bod y cyllid hwn wedi caniatáu i gwmni o Gymru adeiladu ei weithlu ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy o'r fath. Bydd y twf hwn hefyd yn darparu cyfleoedd rhagorol i raddedigion newydd aros yng Nghymru a dod o hyd i waith yn nes at adref yn y sector cyffrous hwn."