English icon English
PO 200521 Miles 25-2

Cyhoeddi camau gweithredu newydd i ‘greu lle’ i ysgolion

New actions to ‘create space’ for schools announced

Heddiw, nododd Jeremy Miles gyfres o fesurau y byddwn yn eu rhoi ar waith i greu mwy o gapasiti ac i leddfu pwysau posibl yn system addysg Cymru, gan ddarparu rhagor o eglurder am sut flwyddyn fydd y flwyddyn academaidd nesaf.

Ers dechrau yn ei swydd fel Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, mae Jeremy Miles wedi bod yn siarad â phobl yn y system ysgolion ledled y wlad i glywed yn uniongyrchol ganddynt am yr heriau sy'n eu hwynebu wrth gefnogi dysgwyr yn ystod y pandemig, a pha help sydd arnynt ei angen.

Bydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw’n helpu i leihau baich gweinyddol ysgolion ac yn galluogi dull mwy unigol o gefnogi pobl ifanc yng Nghymru.

Maent yn cynnwys:

  • atal rhaglen arolygu graidd Estyn ar gyfer ysgolion ac unedau atgyfeirio disgyblion (PRUs) ymhellach i gynnwys tymor yr hydref 2021 ac i dreialu dull newydd o arolygu gyda chytundeb ysgolion ’yn nhymor y gwanwyn.
  • bydd atal mesurau perfformiad ysgolion yn cael ei ymestyn i 2021/22.
  • ni fydd categoreiddio ysgolion yn digwydd yn y flwyddyn academaidd nesaf.
  • rheoliadau newydd sy'n llacio ystod o ofynion adrodd ysgolion ar gyfer 2020/21, gan gefnogi'r sicrwydd a roddwyd yn flaenorol ynglyn a ddefnyddio data ysgolion a effeithwyd gan y pandemig.

Dywedodd y Gweinidog,

“Fy mlaenoriaethau i ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yw adnewyddu a diwygio, gan roi cynnydd a lles y dysgwyr wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Wrth i ni adfer ar ôl y pandemig, gan weithio tuag at gyflawni'r cwricwlwm newydd, rydw i eisiau adeiladu ar yr arloesi, yr hyblygrwydd a’r ffocws ar les sydd wedi ein helpu ni drwy'r cyfnod hwn o darfu.

“Y neges glir rydw i wedi’i derbyn gan y gweithlu addysg yw eu bod yn benderfynol o wneud popeth o fewn eu gallu i helpu dysgwyr i wneud cynnydd, ond mae pwysau sy'n effeithio ar eu gallu i wneud hyn. Rydw i wedi gwrando ac yn gweithredu i'w cefnogi.

“Mae'r camau a gyhoeddwyd heddiw’n adeiladu ar yr ystod o fesurau rydyn ni eisoes wedi'u rhoi ar waith eleni i leddfu pwysau a darparu hyblygrwydd. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan fwy na £150m o gyllid i gefnogi lles, dysgu ac addysgu eleni.

“Byddaf yn parhau i weithio gydag ysgolion, arweinwyr a dysgwyr ar y camau eraill y gallwn eu cymryd i greu gofod yn y system i gefnogi adnewyddu a diwygio.”