Cyhoeddi cefnogaeth ychwanegol i iechyd meddwl ieuenctid
Extra support for youth mental health announced
Heddiw, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i helpu mwy o bobl ifanc i gael cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a lles emosiynol drwy ddulliau gwaith ieuenctid.
Bydd £2.5m ychwanegol yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cymorth Ieuenctid yn ystod y flwyddyn ariannol hon, i weithio gyda'r sector gwirfoddol i gyrraedd ystod ehangach o bobl ifanc, gan gynnwys y rhai sy'n anoddach eu cyrraedd a'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, nad ydynt ar hyn o bryd efallai’n ymwneud ag addysg ffurfiol, hyfforddiant na gwaith.
Bydd y cyllid yn cefnogi gweithwyr ieuenctid i ddarparu gwasanaethau ymyriadau ac atal cynnar ar gyfer y rhai â phroblemau iechyd meddwl a lles emosiynol lefel isel, a byddant ar gael ledled Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles,
“Mae iechyd meddwl a lles emosiynol ein plant a’n pobl ifanc yn flaenoriaeth lwyr i mi, ac mae ein dull ‘ysgol gyfan’ o weithredu’n sicrhau bod hyn yn ganolog i’r ffordd mae ysgolion yn gweithio ac yn cyffwrdd â’r gwahanol agweddau ar fywyd ysgol .
“Ond rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl o bob oed ac mae gan waith ieuenctid rôl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi pobl ifanc yn eu hysgolion a’u cymunedau.
“Rydyn ni hefyd yn deall y gall cael y gefnogaeth gywir ar yr amser iawn, mewn llawer o achosion, atal effeithiau niweidiol tymor hwy, a dyna pam rydyn ni'n sicrhau bod cefnogaeth yn flaenoriaeth hefyd.
“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i wella’r adnoddau a’r gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael i bobl ifanc yn y cyfnod heriol hwn, ac yn eu helpu i gael yr help sydd arnynt ei angen, ble a phryd mae arnynt ei angen.”
Mae’r cyllid yn ategu dulliau eraill fel y dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, sy’n nodi gweithwyr ieuenctid yn glir fel rhan o ‘dîm’ yr ysgol ac yn nodi manteision gweithio mewn partneriaeth i gefnogi pobl ifanc.