Cyhoeddi cynllun amaeth-amgylcheddol interim ar gyfer 2024
Interim agri-environment scheme announced for 2024
Bydd cynllun amaeth-amgylcheddol i ddiogelu cynefinoedd ar dir ffermio’n cael ei gyflwyno i bara o 1 Ionawr 2024 tan ddechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2025, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Wrth i Gymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru ddod i ddiwedd ei hoes, bydd y cynllun yn cynnig cymorth i ffermwyr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig pan ddaw eu contractau i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
Bydd cyfnod ymgeisio’r cynllun yn dechrau’n ddiweddarach eleni, a bydd contractau’n dechrau ym mis Ionawr 2024 gan sicrhau na fydd bwlch ar ôl i Glastir gau ym mis Rhagfyr 2023.
Caiff manylion y cynllun newydd eu cyhoeddi ar ôl trafod â rhanddeiliaid a chyhoeddir y gyllideb cyn i’r cyfnod ymgeisio ddechrau.
Bydd y cynllun newydd yn golygu y caiff mwy o ffermwyr gymryd rhan a diogelu cynefinoedd gan sicrhau’r un pryd y bydd y gwelliannau mawr a wnaed trwy Glastir yn cael eu cadw.
Mae diwedd Glastir yn golygu hefyd y bydd holl ffermwyr a rheolwyr tir Cymru yn cael ymgeisio am yr holl Gynlluniau Buddsoddi Gwledig sydd ar gael, gyda llawer ohonyn nhw’n eu paratoi i ymuno â’r SFS. Ar hyn o bryd, nid yw ffermwyr Glastir Uwch yn cael ymgeisio am y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig: “Trwy Glastir, rydyn ni wedi cefnogi ffermwyr i ddiogelu a gwella cynefinoedd; rydym am warchod y buddsoddiad hwnnw wrth i ni symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
“Mae’n dda gen i gyhoeddi heddiw gynllun amaeth-amgylcheddol interim i gefnogi ffermwyr i ddiogelu cynefinoedd gwerthfawr tan y daw’r SFS.
“Mae’n bwysig bod gennym gynllun i wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r gwelliannau mawr a wnaed trwy Glastir. Rydyn ni’n annog ffermwyr i gymryd rhan.
“Argymhellodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd na ddylai fod bwlch rhwng diwedd Glastir a dechrau’r SFS a dyna yw diben y cynllun rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw.
“Mae’r cynllun interim yn gam pwysig at gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn cynnal ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a mynd i’r afael yr un pryd â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae’n paratoi’r ffordd at yr SFS a’i egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy.”