English icon English

Cyhoeddi cynllun cyllido £3m ar gyfer prosiectau morol, pysgodfeydd a dyframaethu

£3m funding scheme for marine, fisheries and aquaculture projects announced

Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod cynllun cyllido gwerth £3 miliwn i gefnogi'r sectorau pysgodfeydd, morol a dyframaethu bellach ar agor ar gyfer mynegi diddordeb.

Mae'r cyllid ar gael dros ddwy flynedd ac yn disodli Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop flaenorol. 

Nod Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yw cefnogi cynhyrchwyr bwyd môr, cymunedau arfordirol a'r amgylchedd forol i ffynnu, drwy fuddsoddi'n strategol er budd y sector yn y tymor hir.

Yn y rownd ariannu gyntaf hon o'r cynllun bydd canolbwyntio ar gynorthwyo i ddod o hyd i farchnadoedd newydd ar gyfer cynnyrch pysgodfeydd a dyframaethu, hyrwyddo ansawdd y cynhyrchion a helpu busnesau i farchnata eu cynnyrch. 

Bydd datganiadau o ddiddordeb hefyd yn cael eu gwahodd i gefnogi ymchwil i wella effeithlonrwydd ynni a lliniaru ac addasu i effeithiau newid hinsawdd o fewn y sector môr a physgodfeydd.

Mae rhagor o fanylion ar sut i gyflwyno datganiad o ddiddordeb i Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru ar gael drwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon bydd cronfa her arall gwerth £800,000 yn agor i adeiladu capasiti mewn cymunedau arfordirol. Darperir cymorth ariannol i wella canlyniadau amgylcheddol ac o bosibl gynyddu'r galw am fwyd môr lleol gyda nodweddion cynaliadwyedd cadarn. Nod y cynllun peilot, fydd yn cael ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fel rhan o'r rhwydwaith Partneriaeth Natur Lleol yw gwella sgiliau ar lefel leol ac annog partneriaid i gydweithio. 

Meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Rwy'n falch bod y cynllun cymorth Môr, Pysgodfeydd a Dyframaethu bellach ar agor ar gyfer mynegi diddordeb.  Mae ein sectorau pysgodfeydd, môr a dyframaethu yng Nghymru yn wynebu llawer o heriau wedi i ni ymadael â’r UE a’r argyfwng costau byw.  Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn helpu i farchnata eu busnesau, a hefyd ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â'r argyfwng hinsawdd.

"Bydd y cyllid ar wahân, sy'n werth £800,000, yn helpu i adeiladu capasiti mewn cymunedau arfordirol i grwpiau weithio gyda'i gilydd ar brosiectau pwysig i gefnogi twf cynaliadwy, arallgyfeirio ac adfer natur.  Yn aml iawn, pobl sy'n gweithio'n lleol sy'n gallu sicrhau newid go iawn yn eu hardal, a bydd yr arian yma yn eu cefnogi i wneud hynny."

Mae rhagor o fanylion am Adeiladu Capasiti Arfordirol a chofrestru ar gyfer seminar wybodaeth sy'n cael ei chynnal ar 12 Rhagfyr ar gael drwy gysylltu â Phartneriaethau Natur Lleol ar lnpcymru@wcva.cymru