Cyhoeddi Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2023 a 2024
Basic Payment Scheme announced for 2023 and 2024
Heddiw, mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cadarnhau y bydd cyllideb gwerth cyfanswm o £238 miliwn ar gael ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2023, sef yr un lefel a ddarparwyd dros y tair blynedd diwethaf.
Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd, yn amodol ar y gyllideb sydd ar gael, y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn parhau i gael ei ddarparu ar y lefelau presennol yn 2024, gyda dyraniad dros dro o £238 miliwn.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae’r sector amaeth yn wynebu llawer o heriau. Mae’r rhain yn cynnwys heriau aruthrol lefelau chwyddiant eithriadol o uchel ac effeithiau andwyol cytundebau masnach, ac yn eu plith cytundeb y mae cyn-Ysgrifennydd yr Amgylchedd y DU wedi’i ddisgrifio fel un gwael iawn. Gwn fod hwn yn gyfnod anodd.
“Mae Llywodraeth y DU dro ar ôl tro wedi gwrthod adolygu’r fethodoleg ar gyfer cyllido ffermydd ac wedi gwrthod rhoi i Gymru yr arian y byddai wedi’i gael yn llawn, pe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Y llynedd, cyhoeddodd y Canghellor y byddai Cymru yn cael £252.19 miliwn ar gyfer cymorth amaethyddol yn 2022/23 yn lle cyllid Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. Mae hynny’n golygu bod ffermwyr Cymru wedi colli £106 miliwn yn rhagor, ar ben y £137 miliwn na ddarparodd y Trysorlys y flwyddyn flaenorol.
“Mae methiant parhaus Llywodraeth y DU i addasu lefelau cyllido i ddelio â chostau cynyddol yn gwaethygu effaith eu camreoli economaidd ar ffermwyr yng Nghymru.
“Mae’r heriau hyn yn tanlinellu mwy fyth bwysigrwydd yr angen i newid i system newydd o gymorth i ffermydd sy’n decach ac a fydd yn cefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Dyna ein nod gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyflwynir yn 2025.”