English icon English

Cyhoeddi Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan newyddi helpu i fynd i’r afael â gordewdra

New All Wales Weight Management Pathway published to help tackle obesity

Heddiw, mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, wedi datgelu’r Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan ar ei newydd wedd. Mae'r canllawiau yn cefnogi datblygiad gwasanaethau rheoli pwysau yng Nghymru, a byddant o gymorth hefyd wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny. 

Am y tro cyntaf, mae llwybr ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd – a fydd yn mynd ati mewn ffordd wahanol i gefnogi pobl iau – yn ogystal â'r llwybr i oedolion.

Bydd cyfanswm o £2.9 miliwn o gyllid ar gael i fyrddau iechyd i ddatblygu eu llwybrau lleol ac i’w ddefnyddio fel cymorth i weithredu’r canllawiau.

Mae Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan newydd yn disodli llwybr 2010 ac yn canolbwyntio ar y daith rheoli pwysau, o ymyrraeth gynnar i gymorth arbenigol. Mae'r llwybr yn rhoi arweiniad i'r rhai sy'n dymuno comisiynu gwasanaethau rheoli pwysau, yn ogystal â'r rheini sy'n darparu gwasanaeth. Mae’n argymell y gofynion gwasanaeth a’r disgwyliadau gofynnol ar gyfer arwain pobl sydd â gwahanol lefelau o angen a’u trin. 

Datblygwyd y Llwybr mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol gan gynnwys deietegwyr, maethegwyr, seicolegwyr a meddygon sy'n gweithio ar draws y maes rheoli pwysau gan ddefnyddio'r dystiolaeth ryngwladol orau sydd ar gael.

Mae gan y DU un o'r lefelau uchaf o ordewdra yng Ngorllewin Ewrop. Yng Nghymru, mae 27% o blant pedair i bum mlwydd oed yn y dosbarth derbyn a chwe deg y cant o oedolion dros eu pwysau. Yn ôl adroddiad diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, 'Sut rydym yn gwneud yng Nghymru', mae 43% o bobl yn credu eu bod wedi magu pwysau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae bod dros bwysau yn cynyddu'r risg o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol fel clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser. Mae hefyd yn beryglus o safbwynt iechyd meddwl pobl, gan arwain at ddiffyg hunan-barch, iselder a gorbryder.

Cyn lansio'r llwybr newydd, ymunodd y Dirprwy Weinidog â chyfarfod rhithiol a siaradodd â Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd a Phartneriaethau Strategol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Eglurodd Dr Aitken sut y byddai'r cyllid newydd yn cael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau rheoli pwysau yn ardal y bwrdd iechyd, a sut mae'r cynlluniau hyn yn cyd-fynd â chynlluniau atal ehangach, fel Rhaglen Cymunedau Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent. 

Eglurodd Eryl Powell o Dîm Iechyd Cyhoeddus Aneurin Bevan Gwent, ynghyd ag Andrew Myatt a Chris Nottingham o Gymdeithas Dai Tai Calon, ragor am gynlluniau uchelgeisiol y rhaglen i fynd i'r afael â thlodi bwyd, hybu bwyta'n iach a rhoi terfyn ar wastraff bwyd yn y sir.

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: "Rydyn ni wedi diweddaru'r canllawiau yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r cyngor newydd yn rhoi mwy o eglurder i ddarparwyr gwasanaethau ac fe’i lluniwyd drwy weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chlinigwyr. Cafodd y llwybr newydd ei seilio ar y ddealltwriaeth y gallai fod amryw o resymau cymhleth pam mae angen cymorth ar unigolyn i reoli ei bwysau, ac mae pwyslais pendant ar sut y gall iechyd meddwl effeithio ar iechyd corfforol pobl.

"Cafodd cryn bwyslais ei roi ar ein hiechyd a'n llesiant dros y flwyddyn ddiwethaf hon. Bydd y llwybr newydd yn rhoi cymorth – a hynny mewn ffordd na fydd yn feirniadol – i helpu pobl ar eu taith i reoli eu pwysau. Bydd yn cael ei gynnal ar y cyd â'n strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach i annog unigolion i wneud dewisiadau iachach ac i fyw bywydau mwy egnïol."