Cyhoeddi Prif Arolygydd newydd Estyn
New Estyn Chief Inspector announced
Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi bod Ei Mawrhydi y Frenhines wedi derbyn yr argymhelliad i wneud Owen Evans yn Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant newydd Cymru.
Bydd Owen Evans yn cymryd swydd Meilyr Rowlands, sef y Prif Arolygydd presennol. Bydd Meilyr yn ymddeol ddiwedd Awst 2021 a bydd Owen yn dechrau ar ei swydd ym mis Ionawr 2022.
Claire Morgan, cyfarwyddwr strategol Estyn fydd y Prif Arolygydd dros dro hyd fis Ionawr.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru:
“Dw i am longyfarch Owen Evans ar ei benodiad, ac yn diolch o galon i Meilyr Rowlands am ei waith caled a’i ddiwydrwydd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
“Mae Meilyr wedi bod yn ffrind beirniadol i’r llywodraeth ac wedi mynd ati’n systemataidd i helpu i godi safonau ysgolion yng Nghymru drwy broses arolygu drwyadl. Dw i’n dymuno’n dda iddo i’r dyfodol.”
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg:
“Hoffwn ddiolch i Meilyr Rowlands am ei waith fel Prif Arolygydd. Ei gyfraniad ef at addysg yng Nghymru yw un o’r rhesymau pam mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i Owen Evans ymgymryd â’r rôl. Dw i’n ei longyfarch ar ei benodiad ac yn edrych ymlaen at weithio gyda fe yn y dyfodol.”