Cyhoeddi Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru
New Permanent Secretary of the Welsh Government announced
Cyhoeddwyd mai Dr Andrew Goodall CBE fydd Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru.
Bydd Dr Goodall yn olynu'r Fonesig Shan Morgan fel gwas sifil uchaf Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am tua 5,000 o staff ac sydd hefyd yn brif gynghorydd polisi i’r Prif Weinidog.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, “Rwy'n falch iawn y bydd Andrew Goodall yn ymgymryd â rôl yr Ysgrifennydd Parhaol wrth inni adeiladu Cymru gryfach, decach a gwyrddach gyda'n gilydd y tu hwnt i'r pandemig.
“Mae e’ wedi bod yn aelod blaenllaw o wasanaeth cyhoeddus Cymru ers sawl blwyddyn, felly rwy’n croesawu ei benodiad i’r swydd hon yn wresog.
“Hoffwn ddiolch i Shan am arwain gwasanaeth sifil Cymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn, ac rwy’n dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol."
Mae Dr Goodall wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru ers 2014. Cyn hynny, ef oedd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Dywedodd, “Mae’n anrhydedd mawr cael ymgymryd â rôl yr Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda staff ar draws y gwasanaeth sifil a gweithlu sector cyhoeddus ehangach Cymru.
“Mae heriau mawr o’n blaenau ond rwy’n hyderus y gallwn fynd i’r afael â nhw drwy weithio gyda’n gilydd, ac adeiladu ar y seiliau y mae Shan wedi’u gosod yn ystod y pum mlynedd diwethaf.”
Penodir Ysgrifenyddion Parhaol ar gontractau pum mlynedd sefydlog yn dilyn cystadleuaeth agored a thrylwyr yn y gwasanaeth sifil.
Dywedodd y Fonesig Shan: Rwy'n teimlo fy mod wedi bod yn hynod ffodus o gael gweithio gyda grŵp mor wych o bobl ar bethau sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl yng Nghymru, a hynny yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ein hanes.
“Er ei bod yn anochel bod llawer o'm hamser wedi'i dreulio'n ymateb i broblemau a digwyddiadau annisgwyl, rhoddais bwyslais hefyd, yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Parhaol, ar geisio datblygu gwasanaeth sifil mwy gwydn, medrus a galluog ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gwneud y sefydliad yn lle tecach a mwy cynhwysol i weithio ynddo.
“Rwy'n dymuno'r gorau i Andrew a byddaf yn gweithio'n agos gydag ef wrth iddo ymgymryd â'r swydd.”