English icon English
PO 200624 THE BUSH 37

Cyllid grant yn cefnogi creu cartrefi fforddiadwy a chyfleusterau parcio hygyrch yn Abertawe

Grant funding supports the creation of affordable homes and accessible parking facilities in Swansea

Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio â chynllun tai Bush yn Sgeti, Abertawe.

Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu gan Coastal Housing Group a bydd yn creu 13 o gartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer rhent cymdeithasol.

Bydd y cartrefi yn cynnwys 13 o fflatiau un ystafell wely ar gyfer dau berson.

Mae maes parcio pwrpasol newydd ar gyfer preswylwyr hefyd yn cael ei adeiladu a bydd yn cynnwys mannau penodol ar gyfer pobl anabl am y tro cyntaf.

Mae Coastal hefyd yn archwilio a oes modd cynnig cyfleusterau diogel ar gyfer storio beiciau a gwefru cerbydau trydan hefyd fel rhan o'u hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol

Mae'r cynllun wedi derbyn mwy na £1.7m o gymorth ariannol gan Grant Tai Cymdeithasol (SHG) Llywodraeth Cymru.

Mae'n rhaid i bob cartref newydd a ariennir gan y Grant hwn fodloni Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 (WDQR 2021).

Mae'r Gofynion yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol adeiladu cartrefi sy'n llawer mwy effeithlon o ran ynni.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Yng Nghymru, rydym wedi gosod targed uchelgeisiol i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu o fewn y sector cymdeithasol yn ystod y tymor hwn o'r llywodraeth.

"Rydym wedi buddsoddi'r lefelau uchaf erioed o gyllid i gefnogi hyn ac wedi codi'r safonau y mae'n rhaid i gartrefi newydd a ariennir gan y Grant Tai Cymdeithasol eu cyrraedd i wella effeithlonrwydd ynni ac iechyd a lles tenantiaid.

"Bydd y datblygiad hwn yn darparu tai fforddiadwy y mae gwir eu hangen o'r safon uchaf i'r gymuned leol ac edrychaf ymlaen at weld y cartrefi ar ôl iddynt gael eu cwblhau."

DIWEDD