Cyllid gwerth £5.25 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu gofalwyr di-dâl
£5.25m Welsh Government funding to benefit unpaid carers
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden wedi dweud y bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn parhau i gael cymorth ychwanegol i'w galluogi i gymryd seibiannau haeddiannol o'u rôl ofalu.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd cyllid ar gael i barhau i helpu gofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol.
Bydd y Cynllun Seibiannau Byr a'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn cael cyllid ar gyfer 2025/26 gwerth £3.5 miliwn a £1.75 miliwn yn y drefn honno gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynlluniau hyn yn ychwanegol at y dyletswyddau sydd gan awdurdodau lleol i ddarparu cymorth priodol i ofalwyr.
Mae'r Cynllun Seibiannau Byr ar y trywydd iawn i gyflawni'r targed o 30,000 o gyfleoedd seibiannau byr ychwanegol erbyn mis Mawrth 2025. Bydd estyn y cynllun hwn yn golygu y bydd modd parhau i helpu gofalwyr di-dâl yng Nghymru i gymryd seibiannau o'u cyfrifoldebau er mwyn cynnal eu llesiant.
Gellir defnyddio'r arian, er enghraifft, ar gyfer gwyliau byr, diwrnodau gweithgareddau a mynd i'r sinema. Gall hefyd helpu gofalwyr i ddilyn hobi neu gymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae canfyddiadau diweddar yn awgrymu mai dim ond 14% o’r gofalwyr sy'n oedolion sydd wedi elwa ar y cynllun a oedd hefyd wedi cael seibiant o rywle arall yn ystod y 12 mis diwethaf, sy'n cadarnhau'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae. Mae 80% o'r rhai sy'n elwa ar y cynllun yn darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos.
Mae’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn rhoi cymorth ariannol brys i ofalwyr di-dâl ar incwm isel o bob oed i brynu eitemau hanfodol. Gellid ei ddefnyddio i brynu bwyd, eitemau ar gyfer y cartref neu i dalu biliau cyfleustodau. Yn ogystal, mae'r gronfa hefyd yn darparu gwybodaeth i helpu pobl i reoli arian a sicrhau eu bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau a thaliadau y mae ganddynt hawl iddynt.
Nid oedd bron i hanner y gofalwyr di-dâl sydd wedi elwa ar y cynlluniau yn ystod y tair blynedd diwethaf yn hysbys i wasanaethau yn flaenorol. Mae'r cynlluniau felly'n dangos eu gwerth ychwanegol sylweddol fel ffordd o gael gafael ar fathau eraill o gymorth.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol wrth roi gofal i aelodau o'u teulu a'u ffrindiau.
"Rwy'n falch iawn ein bod yn rhoi cyllid eleni i helpu mwy o ofalwyr di-dâl i gymryd seibiannau byr gan fod tystiolaeth dda y gallan nhw gael effaith bositif ar lesiant.
"Rydyn ni hefyd yn gwybod bod llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu pwysau ariannol oherwydd eu rôl ofalu a bydd y Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn parhau i roi cymorth ychwanegol hanfodol i ofalwyr sydd ar incwm isel."
Dywedodd Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: "Rydyn ni wedi clywed gan filoedd o ofalwyr di-dâl bod y Cynllun Seibiannau Byr wedi'u helpu nhw i gael seibiant o ofalu am y tro cyntaf erioed a bod grantiau drwy'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr wedi bod yn hanfodol i brynu bwyd a chynhesu eu cartrefi.
"Mae angen y rhaglenni hyn nawr yn fwy nag erioed wrth i gostau godi ac wrth i'n partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wynebu pwysau cynyddol. Mae ein cydweithwyr mewn gwasanaethau statudol yn dweud wrthyn ni fod buddsoddiadau cymedrol yn y rhaglenni trawsnewidiol hyn yn gwneud gwahaniaeth i helpu gofalwyr â'u rôl ofalu hanfodol ac atal yr angen am ymyrraeth bellach gan wasanaethau acíwt."
"Fel y Corff Cydgysylltu Cenedlaethol ar gyfer y Cynllun Seibiannau Byr a'r sefydliad sy'n arwain y gwaith o ddarparu'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, mae'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu'r rhaglenni hanfodol hyn gyda sicrwydd o gyllid am flwyddyn arall.
"Bydd y cyllid hwn yn galluogi sefydliadau gofalwyr lleol a phartneriaid cyflawni i helpu miloedd yn fwy o ofalwyr di-dâl drwy roi seibiant mawr ei angen iddyn nhw o'u rôl ofalu gan hefyd eu diogelu rhag effeithiau llymaf tlodi hyd 2026."