Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2027-28: Llinell Dros Nos

Welsh Government Draft Budget 2027-28: Overnight Line

Heddiw (dydd Mawrth 17 Tachwedd) bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2027-28.

Hon fydd cyllideb lawn gyntaf y llywodraeth newydd a chyllideb amlflwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon. Bydd yn nodi cynlluniau adnoddau hyd at 2028-29 a chynlluniau cyfalaf hyd at 2029-30.

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu gostyngiad o 0.5% mewn termau real yn ei gwariant adnoddau y flwyddyn nesaf, a gostyngiad o bron i 10% mewn termau real yn ei chyllideb gyfalaf erbyn 2029/30.

Bydd y Gyllideb yn canolbwyntio'r cyllid sydd ar gael ar y blaenoriaethau y pleidleisiodd pobl drostynt ym mis Mai, gan adlewyrchu camau sylweddol i ailosod y ffordd mae Cymru'n gwario arian cyhoeddus.

Cyn ei chyhoeddi, dywedodd y Gweinidog Cyllid Elin Jones:

“Mae’r Gyllideb hon wedi’i gosod yn erbyn cefndir ariannol hynod heriol. Nid yw’r cyllid gan Lywodraeth y DU wedi cadw i fyny â chwyddiant, felly mae gennym lai i’w wario ar y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnynt.

“Ond ar yr un pryd, mae hon yn Llywodraeth newydd sydd â mandad i gyflawni rhaglen uchelgeisiol o newid.

"Felly, mae'r Gyllideb hon yn troi tudalen ar y gorffennol. Mae'n ailosod y ffordd mae Cymru'n gwario arian cyhoeddus.

"Bydd pob punt yn cael ei gwario mewn ffordd ddoeth, a byddwn yn mesur llwyddiant nid yn ôl faint rydyn ni'n ei wario, ond yn ôl y canlyniadau y byddwn ni’n eu cyflawni i bobl Cymru.

"Mae'r Gyllideb heddiw yn gosod y sylfeini ar gyfer popeth mae'r llywodraeth eisiau ei gyflawni yn ystod tymor y Senedd hwn."