Cyllideb Llywodraeth Cymru yn "gosod cyfeiriad newydd", meddai'r Gweinidog Cyllid
Welsh Government's "reset" Budget "a break with the past", says Finance Minister
- Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft lawn gyntaf yn nhymor newydd y Senedd – Cyllideb ar gyfer 2027-28, gyda chynlluniau gwario hyd at 2028-29 ar gyfer adnoddau a 2029-30 ar gyfer cyfalaf.
- Cyllideb sy'n cefnogi'r GIG, llywodraeth leol, gofal plant, ysgolion a thai drwy fuddsoddiad newydd, gan gynnwys £500 miliwn ychwanegol i'r GIG yn 2027-28.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2027-28, sef cyllideb lawn gyntaf y llywodraeth newydd a chyllideb amlflwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon. Mae'n nodi cynlluniau adnoddau hyd at 2028-29 a chynlluniau cyfalaf hyd at 2029-30.
Mae'r Gyllideb yn canolbwyntio'r cyllid sydd ar gael ar y blaenoriaethau y pleidleisiodd pobl drostynt ym mis Mai, gan adlewyrchu camau sylweddol i ailosod y ffordd mae Cymru'n gwario arian cyhoeddus.
Mae cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn dynn, gyda gostyngiadau mewn termau real i gyllid gan Lywodraeth y DU, ochr yn ochr â chwyddiant uwch a phwysau gwario sylweddol. O fewn y cyfyngiadau hynny, mae'r llywodraeth hon wedi dewis beth i'w amddiffyn a beth i'w dyfu.
Mae'r Gyllideb Ddrafft yn cynnwys:
- £500 miliwn ychwanegol i'r GIG yn 2027-28, gan godi i £700 miliwn ychwanegol yn 2028-29, i helpu i dorri rhestrau aros a rhoi'r gwasanaeth iechyd ar sail fwy cadarn, ynghyd â £171 miliwn arall o gyfalaf ar gyfer prosiectau fel hybiau gofal newydd i gyflymu llawdriniaethau wedi'u cynllunio.
- Cyfanswm o £2 biliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer gwasanaethau iechyd dros y tair blynedd nesaf.
- £176 miliwn ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2027-28, sy'n gynnydd cyfartalog o 2.8% gyda phob awdurdod lleol yn cael o leiaf 2.5%.
- £103.5 miliwn ar gyfer prydau ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys £10 miliwn ychwanegol i ehangu prydau am ddim mewn ysgolion uwchradd.
- £75 miliwn yn 2027-28 ac yn codi i £186 miliwn yn 2028-29 i barhau â chyflwyno'r cynnig gofal plant i bob plentyn, a fydd yn y pen draw yn darparu 20 awr o ofal plant yr wythnos wedi'i ariannu i bob plentyn rhwng naw mis oed a phedair blwydd oed am 48 wythnos y flwyddyn.
- £1.5 biliwn o gyfalaf dros dair blynedd tuag at y targed o 20,000 o gartrefi.
- £30 miliwn o gyfalaf ar gyfer rhaglenni datgarboneiddio, yr economi gylchol ac adfer natur, a £30 miliwn ar gyfer rhaglen genedlaethol gwefru cerbydau trydan i annog buddsoddiad yn y sector.
- £25 miliwn ar gyfer cronfa newydd i helpu gwasanaethau cyhoeddus i weithio'n well.
- £9.2 miliwn dros ddwy flynedd i dreialu Cynnal, er mwyn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd cymwys ar incwm is sydd â phlant ifanc.
- Mwy na £20 miliwn yn 2027-28, gan godi i £30 miliwn yn 2028-29 i'r asiantaeth newydd, Asiantaeth Arloesi a Datblygu Cymru, i helpu busnesau i dyfu a chreu swyddi sy'n talu'n dda.
- £45.7 miliwn o gyfalaf dros dair blynedd ar gyfer diogelwch tomenni glo, yn ogystal â chyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:
“Mae'r Gyllideb hon yn gosod cyfeiriad newydd. Mae'n ailosod y ffordd mae Cymru'n gwario arian cyhoeddus, ac mae'n gosod y sylfeini ar gyfer popeth y mae'r llywodraeth hon eisiau ei gyflawni dros dymor y Senedd hon, gan gynnwys Gwasanaeth Iechyd cryfach, cymorth i gynghorau lleol a mwy o gymorth gyda gofal plant.
“Mae cyllid cyhoeddus yn dynn. Rydyn ni'n gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant ar draws y sector cyhoeddus, fel y gallwn ni ddiogelu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw, ac rydyn ni'n gwneud penderfyniadau anodd nawr fel bod y blynyddoedd nesaf yn haws.
“Oherwydd bod hon yn gyllideb amlflwyddyn, gallwn ni adeiladu ein blaenoriaethau fesul cam ac mewn modd cynaliadwy dros dymor cyfan y Senedd, nid dros flwyddyn yn unig. Mae hefyd yn rhoi'r sicrwydd cynllunio i'n gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw wedi gofyn amdano ers amser maith.
“Mae'r Gyllideb hon yn canolbwyntio adnoddau lle byddan nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl a byddwn ni'n gwneud i bob punt gyfrif. Byddwn ni'n cael ein barnu yn ôl y canlyniadau rydyn ni'n eu cyflawni i bobl Cymru, nid yn ôl faint sy'n cael ei wario.”