£1.9m i fynd i’r afael â thlodi bwyd yng nghymunedau Cymru
£1.9m to address food poverty in Welsh communities
Mae dros £1.9m o gyllid yn cael ei ddyfarnu i sefydliadau ledled Cymru er mwyn helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd o fewn cymunedau lleol.
Bydd y 40 o brosiectau yn rhoi’r lle canolog i iechyd, lles a chadernid cymunedol yn eu gwaith.
Byddant hefyd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â phroblemau bwyd mewn ffordd fwy cynaliadwy, gan weithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i gyflawni anghenion eu cymunedau.
Dyfarnwyd dros £31,000 i Valley Pantries, sy’n cael ei redeg gan gymdeithas dai Linc Cymru, i hyrwyddo ei waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Karen Jeffreys, Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol:
“Fe wnaeth y coronafeirws daflu golau ar y caledi ariannol y mae llawer yn ei brofi. Yn Linc, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r gymuned leol a’n partneriaid i gefnogi ein trigolion, ac mae prosiectau fel Valley Pantries wedi bod yn effeithiol ac yn angenrheidiol drwy gydol y pandemig.
“Mae’r prosiect wedi darparu dros 4,000 o fagiau o fwyd fforddiadwy i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddangos pŵer gwirioneddol cymuned. Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld Valley Pantries yn derbyn y cyllid hollbwysig hwn gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn ei alluogi i barhau i gynnig bwyd fforddiadwy, iach ac ymchwilio i syniadau newydd fel tyfu bwyd o fewn y gymuned.”
Dyfarnwyd dros £91,000 i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) i ailwampio banciau bwyd lleol a chydlynu gwasanaethau.
Dywedodd y Prif Weithredwr, John Gallanders:
“Ar ddechrau Covid, creodd y Gymdeithas fforwm o ryw 20 o fudiadau sy’n delio â thlodi bwyd, a nododd yr angen am y cyllid hwn er mwyn bod yn fwy effeithiol a chynaliadwy. Rydyn ni wrth ein bodd, felly, ein bod ni wedi derbyn y cyllid hwn er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r problemau.
“Fe fydd yna gynllun grant bach ar gael y gall unrhyw fenter tlodi bwyd wneud cais amdano gan nodi meysydd gwaith sydd angen symiau o hyd at £2,000. Bydd yna brosiect ymchwil hefyd er mwyn nodi’r ddarpariaeth a’r anghenion cyfredol ledled Wrecsam ac i nodi cyfleoedd i ddatblygu’r rhwydwaith.
“Mae’r cyllid yma yn mynd i wneud cymaint o wahaniaeth i fywydau cymaint o bobl ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam.”
Mae prosiectau gwahanol o bob math wedi derbyn cyllid, gan gynnwys rhai a fydd yn gwella cyfleusterau caffis cymunedol a banciau bwyd, yn sefydlu pantris bwyd, yn cefnogi datblygiad hybiau a chanolfannau cyngor, ac yn cryfhau prosiectau tyfu cymunedol.
Mae eu cynlluniau i’r dyfodol hefyd yn cynnwys hyfforddi a meithrin capasiti gwirfoddolwyr, cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, a chefnogi atebion tymor hirach i ansicrwydd bwyd, yn ogystal â delio â’r gofynion sy’n flaenoriaeth ar unwaith.
Dyfarnwyd £100,000 i Gyngor Sir Ynys Môn i gefnogi banciau bwyd a darparu cyllid ar gyfer rhandiroedd cymunedol a dosbarthiadau coginio.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai’r Cyngor, Ned Michael:
“Mynd i’r afael â thlodi ac ansicrwydd bwyd yw un o’n prif flaenoriaethau o hyd. Ers dechrau pandemig Covid-19 ym mis Mawrth 2020, mae ein banciau bwyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw.
“Bydd y grant yma yn rhoi’r cyfle inni roi ymyriadau pellach ar waith er mwyn helpu aelwydydd ar Ynys Môn sy’n agored i niwed. Mae sawl darparwr yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector wedi bod yn cydweithio i nodi’r galw ar hyn o bryd a’r galw posibl i’r dyfodol.
Ychwanegodd “Roedd ein cais am gyllid yn canolbwyntio ar wella mynediad at fwyd fforddiadwy a maethlon drwy Fwyd Da Môn, a hynny ochr yn ochr â chynnig sgiliau coginio mewn sesiynau cymunedol a gaiff eu darparu gan Grŵp Llandrillo Menai. Bydd rhan o’r cyllid yn caniatáu i’n cymuned ychwanegu at werth safleoedd rhandiroedd sy’n bodoli eisoes er mwyn cynyddu’r cynnyrch ffres a gaiff ei ddefnyddio gan ein banciau bwyd a Bwyd Da Môn.”
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae’r pandemig wedi cael effaith ariannol ddifrifol ar gymaint o bobl. Er ein bod yn cymryd camau i helpu teuluoedd i wneud y gorau o’u hincwm a meithrin cadernid ariannol, mae tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn parhau.
“Er mai Llywodraeth y DU sydd â’r gallu mwyaf i fynd i’r afael â thlodi, ee drwy eu pwerau ym maes trethu a systemau lles, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, mae llawer y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru i liniaru effaith tlodi a gwella bywyd lle bynnag y gallwn. Bydd y gronfa hon o £1.9m yn helpu i gefnogi cymunedau a’u trigolion ar lefel leol sydd wedi’i thargedu.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael drwy gydol y gwyliau y flwyddyn ariannol hon, ac mae hefyd yn cefnogi ystod o fentrau bwyd cymunedol eraill, megis prosiect Big Bocs Bwyd sy’n gweithredu mewn ysgolion ac sy’n helpu i leihau gwastraff bwyd mewn ffordd fesuradwy ar lefel fasnachol, lefel gymunedol a lefel yr aelwyd.
Nodiadau i olygyddion
Astudiaeth achos ychwanegol
Mae Porthi Pawb yn cael ei redeg gan Gyngor Gwynedd. Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod y Cabinet dros Addysg:
“Mae Porthi Pawb wrth ei fodd â’r grant sydd wedi’i ddyfarnu i’w helpu i barhau â’i waith. Fe gafodd y prosiect ei sefydlu gan y cogydd lleol, Chris Summers, ym mis Mawrth 2020 er mwyn bwydo pobl mewn angen yn ystod y pandemig. Fe gafodd 14,257 o brydau poeth i oedolion a 1,442 o brydau i blant eu paratoi a’u dosbarthu gan wirfoddolwyr. Bydd y cyllid yma yn golygu bod y ddarpariaeth honno yn gallu parhau fel ymateb cydgysylltiedig i broblem gynyddol tlodi bwyd yng Nghaernarfon. Bydd hefyd yn hwyluso sesiynau coginio a fydd yn dangos sut i baratoi prydau maethlon gan ddefnyddio cynhwysion ffres.”