English icon English

Cymorth i Brynu Cymru - Cymorth parhaus i ddarpar berchnogion tai

Help to Buy Wales - Continued support for prospective homeowners

Heddiw (16 Rhagfyr 2024) cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, y byddai'r cynllun Cymorth i Brynu Cymru yn cael ei estyn, gan ddarparu cymorth parhaus i ddarpar berchnogion tai a'r diwydiant adeiladu tai.

Bydd y cynllun presennol yn cau i geisiadau ddiwedd mis Mawrth 2025, fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi estyniad o 18 mis, gan sicrhau y bydd y cynllun yn parhau i ddarparu cymorth tan fis Medi 2026.

Mae'r cynllun yn helpu pobl na fyddent fel arall yn gallu fforddio cartref, ac ers iddo gael ei lansio ym mis Ionawr 2014, mae Cymorth i Brynu Cymru wedi helpu mwy na 14,000 o aelwydydd i brynu gartref.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: "Mae Cymorth i Brynu Cymru wedi bod yn sylfaenol i'n strategaeth tai, gan gefnogi miloedd o bobl i wireddu eu breuddwyd i brynu cartref. 

"Er bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi dod â Chymorth i Brynu i ben yn Lloegr yn 2023, mae Cymru wedi parhau i gynnig y cymorth hanfodol hwn  ac mae'r estyniad hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i helpu rhagor o bobl i brynu cartref.

"Byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod y cynllun yn diwallu anghenion prynwyr tai ac yn cefnogi'r farchnad dai."

Mae'r estyniad hefyd yn rhoi sicrwydd i'r 50 o ddatblygwyr a busnesau bach a chanolig sydd wedi'u cofrestru gyda Chymorth i Brynu Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda UK Finance, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, a Banc Datblygu Cymru i weithredu'r cynllun.

DIWEDD