Y gweinyddiaethau datganoledig yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi’r gostyngiad o £20 mewn Credyd Cynhwysol
Devolved administrations call for reversal of UK Government’s £20 Universal Credit cut
Mae llythyr gan dair Llywodraeth ddatganoledig y DU wedi'i anfon at Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Waith a Phensiynau, Thérèse Coffey, yn mynegi "pryderon difrifol" am gynlluniau i beidio a rhoi cynnydd o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol.
Mae'r llythyr – sydd wedi’i lofnodi ar y cyd gan Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru Jane Hutt, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Tai a Llywodraeth Leol Shona Robison, a Gweinidog Cymunedau Gogledd Iwerddon Deidre Hargey - yn dweud:
"Rydym yn ysgrifennu i fynegi pryderon difrifol y tair gweinyddiaeth ddatganoledig ynglŷn â’r cynlluniau sydd ar y gweill gan eich Adran i fynd â chymorth oddi ar y bobl dlotaf yn ein cymdeithas drwy ganiatáu i'r cynnydd o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol a Chredydau Treth Gwaith ddod i ben.
"....y gostyngiad arfaethedig hwn yw’r gostyngiad sydyn mwyaf i gyfradd sylfaenol nawdd cymdeithasol ers i'r wladwriaeth les fodern ddechrau dros 70 mlynedd yn ôl. Bydd methu â chynnal y cynnydd diweddar i’r Credyd Cynhwysol yn gwaethygu caledi a thlodi i bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.
"Er mwyn hybu adferiad cymdeithasol ac economaidd, yn enwedig wrth inni ddod allan o’r argyfwng iechyd y cyhoedd, rydym yn eich annog i wrthdroi'r penderfyniad hwn ac i gryfhau'r gefnogaeth a gynigir gan y Credyd Cynhwysol, yn hytrach na'i wanhau.
"Rydym yn pryderu am yr effaith bosibl y bydd lleihau’r Credyd Cynhwysol yn ei chael ar dlodi plant, lefelau tlodi ac iechyd a lles ariannol pobl."
Mae'r llythyr hefyd yn cwestiynu safbwynt yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) mai’r rheswm dros y penderfyniad i beidio ag estyn y cynnydd o £20 yr wythnos i’r Credyd Cynhwysol a Chredydau Treth Gwaith, neu ei wneud yn barhaol, yw annog pobl i gael gwaith.
Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth y DU yn dangos bod 2.2 miliwn o’r 6 miliwn o bobl sy’n cael Credyd Cynhwysol eisoes yn gweithio ac nad yw'n ofynnol i 1.6 miliwn weithio oherwydd cyfrifoldebau iechyd a gofalu sy'n eu hatal rhag chwilio am waith. Mae'r llythyr yn holi:
"...sut mae methu â chynnal y cynnydd i’r Credyd Cynhwysol i aelwydydd yn y sefyllfaoedd hyn yn annog pobl i gael gwaith” ac mae’n pwysleisio’r “angen i sicrhau ei fod yn rhoi cymorth ariannol digonol iddynt sy'n ystyried eu hamgylchiadau personol."