Cymru a Japan 2025 i ddathlu "cysylltiadau dwfn" y ddwy wlad
Wales and Japan 2025 to celebrate the nations’ “deep-rooted connections”
Mae gan Gymru berthynas hir ac agos â Japan ers y buddsoddiadau cyntaf yng Nghymru gan gwmnïau o Japan yn y 1970au.
Nawr, bydd y Prif Weinidog Eluned Morgan heddiw yn lansio ‘Cymru a Japan 2025’, ymgyrch blwyddyn o hyd a’r bumed mewn cyfres o ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar wledydd gan Lywodraeth Cymru.
Nod Cymru a Japan 2025 yw ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol newydd rhwng y ddwy wlad, gan ddod â manteision hirhoedlog iddynt.
Yn ogystal â'r lansiad swyddogol yng Nghaerdydd, a gynhelir gan y Prif Weinidog a Llysgennad Japan, mae digwyddiad lansio hefyd yn cael ei gynnal yn Tokyo heddiw.
Mae gan Gymru gysylltiadau economaidd hirsefydlog â Japan, yn bennaf o ganlyniad i'r ffaith bod cwmnïau o Japan yn mewnfuddsoddi yng Nghymru ers y 1970au.
Mae cronfa gelfyddydau gwerth £150,000, sy'n cael ei rhedeg gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, hefyd wedi cael ei lansio er mwyn cynnal gweithgareddau yn Japan eleni. Nod y gronfa yw datblygu cydweithrediadau celfyddydol newydd rhwng Cymru a Japan, a chryfhau partneriaethau presennol.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cadarnhau heddiw y bydd Cymru'n cael ei chynrychioli yn arddangosfa'r World Expo 2025 yn Osaka rhwng mis Ebrill a mis Hydref eleni. Bwriedir cynnal digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar Gymru, gyda chyfraniadau gan berfformwyr o Gymru, a bydd cyfleoedd economaidd yng Nghymru yn cael eu hyrwyddo.
Meddai'r Prif Weinidog:
"Mae cysylltiadau dwfn rhwng Cymru a Japan sy'n ymestyn yn ôl i'r 19eg ganrif, pan chwaraeodd arloesedd Cymru ran bwysig yn y broses o lunio rhwydwaith trafnidiaeth Japan. Heddiw, mae'r bartneriaeth honno'n ffynnu mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon.
"Bydd 2025 yn flwyddyn i ddechrau sgyrsiau newydd, datblygu cysylltiadau ac agor pennod newydd ar gyfer twf ar y cyd mewn meysydd allweddol. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd o'n blaenau eleni i ddathlu a chryfhau'r cysylltiadau chwaraeon, economaidd, addysgol, a diwylliannol rhwng Cymru a Japan."
Mae Cymru a Japan 2025 yn dilyn Cymru yn India 2024, a blynyddoedd eraill blaenorol a fu’n canolbwyntio ar Ffrainc, Canada a'r Almaen.