FM with Helen McEntee, Dublin - 24.06.2026

Cymru ac Iwerddon yn cryfhau cysylltiadau yn ymweliad tramor cyntaf y Prif Weinidog

Wales and Ireland strengthen ties in FM’s first overseas visit

Bydd Cymru yn meithrin cysylltiadau economaidd, academaidd a diwylliannol cryfach ag Iwerddon, ar ôl i'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth wneud ei ymweliad tramor cyntaf â Dulyn heddiw. 

Bu'r Prif Weinidog yn chweched Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru, a gynhaliwyd gan Weinidog Materion Tramor a Masnach Iwerddon, Helen McEntee TD. Yn y Fforwm, cytunodd y ddwy lywodraeth i hyrwyddo cydweithrediad ar draws ynni glân, addysg, masnach a gweithio ar y cyd yng nghyd-destun diplomyddiaeth chwaraeon.

Y prynhawn yma, daeth digwyddiad sy'n canolbwyntio ar ddiplomyddiaeth chwaraeon â ffigurau cyhoeddus adnabyddus ynghyd gan gynnwys Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, cyn-seren rygbi rhyngwladol Iwerddon Tommy Bowe a Chadeirydd Pêl-rwyd Cymru, Dr Helen Williams. Roedd y digwyddiad yn edrych ar sut y gall Iwerddon a Chymru ddefnyddio chwaraeon i hyrwyddo eu gwledydd ar lwyfan y byd.

Croesawodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog y cyhoeddiad am gynllun cyfatebol newydd i'w lansio gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gefnogi ymchwil cydweithredol a chyfnewid academaidd rhwng Cymru ac Iwerddon.

Ailddatganodd y ddwy lywodraeth eu hymrwymiad i Ddatganiad a Rennir Iwerddon-Cymru 2030, fframwaith ar gyfer partneriaeth ar draws chwe maes blaenoriaeth gan gynnwys hinsawdd ac ynni, yr economi a masnach, a diwylliant a iaith.

Yn ystod ei ymweliad, cyfarfu'r Prif Weinidog hefyd â Llywydd Iwerddon, Catherine Connolly, a'r Taoiseach, Micheál Martin.  

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae Iwerddon yn un o berthnasoedd rhyngwladol mwyaf gwerthfawr Cymru, un sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn mewn hanes, diwylliant, daearyddiaeth a gwerthoedd a rennir. Ond mae hefyd yn edrych i'r dyfodol ac yn canolbwyntio ar gyflawni, yn canolbwyntio ar fudd economaidd a chymdeithasol i'r ddwy ochr.

"Rwy'n falch o fod yn Nulyn heddiw ar gyfer y cyntaf o'r hyn rwy'n obeithio fydd yn  drafodaethau niferus â Llywodraeth Iwerddon, wrth i ni barhau i adeiladu ar gyflawni nodau'r Datganiad a Rennir, sy'n nodi ein hymrwymiad tuag at gydweithredu am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Helen McEntee, Gweinidog Materion Tramor a Masnach Iwerddon:

"Rwy'n falch iawn o fod wedi croesawu'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth i Ddulyn ar ei ymweliad swyddogol cyntaf dramor.  Mae Iwerddon a Chymru yn gyfeillion cadarn gyda chysylltiadau sy'n mynd yn ôl filoedd o flynyddoedd, ac mae'r uchelgais i weithio gyda'n gilydd yn gryfach nag erioed.  Mae ein Datganiad a Rennir yn rhoi manteision i ddinasyddion Iwerddon a Chymru ac roedd heddiw yn gyfle defnyddiol i weld y cynnydd.  Roedd hefyd yn bleser o'r mwyaf cymryd rhan yn ein digwyddiad panel ar Ddiplomyddiaeth Chwaraeon lle mae gennym lawer i'w ddysgu o lwyddiant ein gilydd a llawer o amcanion a rennir - yn enwedig cynnal Euro2028 ar y cyd."

Nodiadau i olygyddion

Llun/picture - First Minister of Wales, Rhun ap Iorwerth, and Minister for Foreign Affairs and Trade of Ireland, Helen McEntee