Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb
A stronger, greener, fairer Wales for everyone
Heddiw (dydd Mawrth 15 Mehefin), bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach a thecach wrth iddo lansio'r Rhaglen Lywodraethu.
Mae'r cynllun pum mlynedd yn dangos sut y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cyflawni'r addewidion a gafodd eu gwneud i bleidleiswyr yn ystod etholiad Senedd 2021 ac yn nodi sut y bydd yn mynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n ein hwynebu.
Bydd y newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd yn ganolog i waith y llywodraeth newydd – mae "uwch-Weinyddiaeth" newydd wedi'i chreu sy’n dwyn ynghyd y meysydd polisi mawr i helpu Cymru i gyrraedd ei tharged cyfreithiol rwymol o gyrraedd sero-net erbyn 2050.
Am y tro cyntaf, daw trafnidiaeth, cynllunio, tai ac ynni - ynghyd â’r amgylchedd – o dan yr un fantell, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd hyn yn sicrhau bod newid hinsawdd ar agenda pob gwasanaeth cyhoeddus a busnes sector preifat.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
"Byddwn yn adeiladu’r Gymru decach, wyrddach, gryfach a mwyfwy llwyddiannus yr ydym ni i gyd ei heisiau i’n hunain ac i’n gilydd.
"Ond rwy'n benderfynol, wrth inni symud Cymru ymlaen, na fydd neb yn cael ei adael ar ôl ac na fydd neb yn cael ei ddal yn ôl.
"Mae pobl yng Nghymru yn gofalu am ei gilydd, ac mae'r rhaglen hon wedi’i seilio ar yr union egwyddor honno.
"Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i symud Cymru ymlaen y tu hwnt i'r pandemig sydd wedi effeithio ar bob elfen o'n bywydau. Maen nhw’n canolbwyntio ar y meysydd lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl a chymunedau.
"Byddwn yn helpu ein dysgwyr i ddal i fyny ac yn helpu pobl i gael swyddi newydd. Byddwn yn adfer capasiti yn y GIG ac yn helpu ein diwydiannau a'n busnesau i baratoi ar gyfer y cyfleoedd sydd o'n blaenau.
"Mae'n gynllun tryloyw a chyraeddadwy ond mae'n cydnabod yr angen am weithredu radical a meddwl arloesol yn wyneb her na welwyd ei thebyg o'r blaen."
Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu ymrwymiadau trawsbynciol ac amcanion llesiant Llywodraeth Cymru gan gynnwys:
Darparu gofal iechyd datblygedig ac effeithiol yn agosach at gartrefi pobl
- Rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl
- Sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd
- Cyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed mewn ysgolion ledled Cymru.
Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed
- Talu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal
- Cynyddu prentisiaethau ym maes gofal a recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg
- Ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant.
Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol
- Cyflwyno’r Warant i Bobl Ifanc, gan roi i bawb o dan 25 oed y cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth
- Creu 125,000 o brentisiaethau pob oed
- Datblygu Her Morlyn Llanw a chefnogi syniadau a all wneud Cymru yn ganolfan fyd‑eang o dechnolegau llanw sy’n dod i’r amlwg
- Ceisio targed o 30% ar gyfer gweithio o bell.
Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl
- Lansio Cynllun Buddsoddi 10 mlynedd newydd yn Seilwaith Cymru ar gyfer economi ddigarbon
- Uwchraddio ein seilwaith digidol a chyfathrebu.
- Gweithio tuag at ein targed newydd o 45% o deithiau drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040, gan bennu nodau mwy ymestynnol lle bo hynny’n bosibl.
Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
- Deddfu i ddiddymu’r defnydd o blastigau untro sydd yn aml yn cael eu taflu fel sbwriel
- Creu Coedwig Genedlaethol a fydd yn ymestyn o’r Gogledd i’r De
- Cyflwyno deddfwriaeth i ddelio â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio, gan gryfhau pwerau’r awdurdodau lleol i sicrhau bod y cyhoedd a’r amgylchedd yn cael eu diogelu
- Cyflwyno Deddf Aer Glân, yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Ehangu’r ddarpariaeth o fonitro ansawdd aer.
Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi
- Ariannu hyd at 1,800 o staff tiwtora ychwanegol mewn ysgolion
- Parhau i fodloni’r cynnydd yn y galw am brydau ysgol am ddim ac adolygu’r meini prawf cymhwysedd, gan ymestyn yr hawl cyn belled ag y mae adnoddau’n caniatáu
- Ymchwilio i ddiwygio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol.
Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math
- Edrych ar ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu
- Treialu dull o ymdrin â’r incwm sylfaenol
- Sicrhau bod cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n cael arian cyhoeddus yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog
- Rhoi targedau ar waith ynghylch cyllidebu ar sail rhyw
- Sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n briodol drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith amgueddfeydd
- Sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru’n fwy hygyrch i bobl
anabl.
Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu
- Sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol
- Ymgynghori ar ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth
- Cyflwyno Bil Addysg Gymraeg Cymraeg 2050 i gryfhau a chynyddu ein darpariaeth mewn ysgolion Cymraeg
- Hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad
- Datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa’r Gogledd.
Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt
- Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i’w rhentu
- Gwella diogelwch adeiladau fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi
- Gwneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl
- Gwahardd parcio ar y palmant, ble bynnag y bo modd.
Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang
- Sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru
- Sefydlu Academi Heddwch yng Nghymru
- Ceisio diwygio’r dreth gyngor i sicrhau system decach i bawb
- Rhoi rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol gwerth £65 miliwn ar waith.