English icon English
welsh flag-3

Cymru yw’r unig wlad yn y DU i gynyddu buddsoddiad mewnol yn ystod pandemig Covid19 diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Wales only UK nation to increase inward investment during Covid19 pandemic thanks to Welsh Government support

Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld nifer y prosiectau buddsoddi mewnol yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda bron i 7,000 o swyddi buddsoddiad tramor yn cael eu diogelu diolch i gefnogaeth economaidd uniongyrchol Covid-19 gan Lywodraeth Cymru, yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r ystadegau, a gyhoeddwyd gan Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU, yn dangos bod Cymru wedi denu 72 o brosiectau buddsoddiad uniongyrchol tramor (FDI) (cynnydd o 16.1% o gymharu â 2019-20).

Diogelwyd 6,907 o swyddi buddsoddiad tramor yng Nghymru (cynnydd o 1,418.0% o gymharu â 2019-20), diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau yn ystod pandemig COVID-19 - mae hyn yn cynrychioli 41.4% o'r holl swyddi a ddiogelwyd ledled y DU. Cefnogwyd mwy na hanner holl brosiectau Cymru drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd. Mae tua £2.5bn ar gael i fusnesau o bob maint ledled Cymru, gan gynnwys £500m drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi eu gweithrediadau. Yn y cyfamser, crëwyd 1,529 o swyddi buddsoddiad tramor newydd yn ystod 2020-21.

Roedd Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan ac yn cefnogi busnesau mewn tua 95% o fuddsoddiadau tramor, o gymharu â 75% ar lefel y DU, gyda’r ymyriadau’n cynnwys cymorth ariannol, cynghori cwmnïau ar safleoedd ac eiddo posibl, adnabod sgiliau a thalent, cymorth gydag ymchwil marchnad a gwneud cyflwyniadau i fanciau, rhwydweithiau busnes a'r byd academaidd.

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae Cymru wedi denu rhai buddsoddiadau nodedig, gan gynnwys Wockhardt yn Wrecsam, rhan allweddol o strategaeth cyflwyno brechlyn y DU, gan gyhoeddi creu 40 o swyddi newydd.

Wrth groesawu’r ffigurau, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae’r ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n dangos mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i ddenu mwy o brosiectau buddsoddi mewnol yn 2020-21 o gymharu â 2019-20, gyda nifer y prosiectau’n gostwng ledled y DU. Mae hyn yn arbennig o nodedig yng nghyd-destun yr heriau sydd wedi’u creu wrth i ni adael yr UE ac effaith pandemig Covid-19 ar ein heconomi.

“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn ddigynsail. Mae busnesau ledled Cymru, y DU ac yn fyd-eang wedi wynebu heriau enfawr wrth ddelio ag effeithiau Covid-19. Dyma pam mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £2.5bn ar gael i gefnogi busnesau ledled Cymru yn ystod pandemig Covid, a oedd y tu hwnt i'r hyn a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Mae hyn wedi helpu i sicrhau ein bod wedi cadw llawer o brosiectau buddsoddi mewnol hanfodol a allai fod wedi gadael fel arall, sydd wedi helpu i ddiogelu bron i 7,000 o swyddi buddsoddiad tramor.

“Yn ehangach, mae ein pecyn cymorth busnes wedi helpu i ddiogelu mwy na 160,000 o swyddi yma yng Nghymru ers dechrau’r pandemig, sy’n dangos yn glir agwedd ragweithiol Llywodraeth Cymru tuag at ôl-ofal a’r amgylchedd busnes cefnogol sy’n bodoli yma. Rwy'n hyderus y bydd y gefnogaeth a ddarparwyd gennym yn ystod y pandemig yn annog ailfuddsoddi ac yn helpu i ddiogelu dyfodol tymor hir buddsoddwyr tramor yng Nghymru. ”

O'r 72 o brosiectau a ddenwyd i Gymru, daeth 27 o'r UE (37.5%) a 45 o ffynonellau y tu allan i'r UE (62.5%). Cyfrannwr mwyaf yr UE oedd yr Almaen (6 buddsoddiad) a'r cyfrannwr mwyaf y tu allan i'r UE oedd UDA (19 buddsoddiad).

Wrth gymharu, mae'r canlyniadau'n dangos bod y DU wedi sicrhau cyfanswm o 1,538 o fuddsoddiadau gan gwmnïau tramor yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf - gostyngiad o 17.0% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yr unig ranbarth arall yn y DU i brofi cynnydd mewn prosiectau yw De Orllewin Lloegr.

Denodd Cymru 4.7% o holl brosiectau'r DU - cynnydd o 3.6% yn 2019-20.

Nodiadau i olygyddion

Dadansoddiad rhanbarthol

Gogledd Cymru

  •  15 buddsoddiad yn addo creu 140 o swyddi newydd a diogelu 1,955 o swyddi eraill.
  • Daeth buddsoddiad o 10 marchnad wahanol - Awstria, Gwlad Belg, yr Almaen, Hong Kong, India, yr Eidal, Japan, Norwy, De Affrica ac UDA.
  • Cafodd y buddsoddiad yng Ngogledd Cymru ei reoli gan y sector Gweithgynhyrchu Uwch a Symudoledd (9 buddsoddiad). Y sectorau eraill oedd Bwyd, Gwyddorau Bywyd, Trydanol ac Electroneg a thwristiaeth.

Esiampl o’r buddsoddiadau a wnaed:

 Wockhardt (Wrecsam):

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56007295

 Canolbarth a De Orllewin Cymru

  •  18 buddsoddiad yn addo creu 244 o swyddi newydd a diogelu 1,758 o swyddi eraill.
  • Daeth buddsoddiad o 14 marchnad wahanol - Awstralia, Barbados, Canada, Ffrainc, yr Almaen, India, yr Eidal, Japan, Luxembourg, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Sbaen, Sweden a’r UDA.
  • Y sector mwyaf oedd Gweithgynhyrchu Uwch a Symudoledd ond gwnaed buddsoddiadau hefyd yn y diwydiannau creadigol, adeiladu, trydanol ac electroneg, bwyd a thwristiaeth.

Esiamplau o’r buddsoddiadau a wnaed:

Blue Gem Wind (Sir Benfro):

https://www.marineenergywales.co.uk/vacancies-with-simply-blue-energy-2/

Wepa (Pen-y-bont ar Ogwr):

https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/bridgend-wepa-llangynwyd-senedd-jobs-18409688

De Ddwyrain Cymru

  •  39 buddsoddiad yn addo creu 1,145 o swyddi newydd a diogelu 3,194 o swyddi eraill.
  • Daeth buddsoddiad o 10 marchnad wahanol - Awstralia, Ffrainc, yr Almaen, Hwngari, Israel, yr Eidal, Japan, yr Iseldiroedd, Norwy, Sbaen, y Swistir, yr Emiradau Arabaidd Unedig ac UDA.
  • Roedd mwyafrif y buddsoddiadau o fewn gweithgynhyrchu uwch a symudoledd (28), ond roedd buddsoddiadau hefyd yn y sectorau adeiladu, diwydiannau creadigol, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, bwyd, TGCh a gwyddorau bywyd.

Esiamplau o’r buddsoddiadau a wnaed:

PerkinElmer (Casnewydd):

https://ir.perkinelmer.com/news-releases/news-release-details/newport-wales-laboratory-goes-live-first-lighthouse-lab

Wizz Air (Bro Morgannwg):

https://www.cardiff-airport.com/news/2020/12/03/wizz-air-announces-further-uk-expansion-with-new-base-at-cardiff-airport/