Cynaeafu manteision gwella bioamrywiaeth yn lleol.
Harvesting the benefits of enhancing biodiversity locally.
Wrth i gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd gyfarfod yn Cali, Columbia ar gyfer COP16 Bioamrywiaeth, cafodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, gyfle yn ddiweddar i siarad â disgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron i weld pa gamau y maent yn eu cymryd i ddiogelu natur a pham.
Yn ystod ei ymweliad cyfarfu'r Dirprwy Brif Weinidog â disgyblion a staff clwb eco Ysgol Gyfun Aberaeron yn ogystal â dylunydd perllan yn yr ysgol.
Mae Partneriaeth Natur Leol Ceredigion wedi darparu cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i greu'r berllan sy'n dangos sut y gall ardal fach wella bioamrywiaeth yn sylweddol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Roeddwn wrth fy modd yn cwrdd â phobl ifanc Ysgol Gyfun Aberaeron i siarad am y gwaith sy'n digwydd yn yr ysgol i ddiogelu natur a pha mor bwysig yw hyn iddyn nhw.
"Mae prosiectau Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fel perllan yr ysgol hon yn cyfrannu’n sylweddol at fioamrywiaeth.
"Rwy'n falch ein bod wedi cefnogi'r Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am ei phumed flwyddyn ac rydym yn parhau i gefnogi'r rhaglen addysg fyd-eang Eco Ysgolion.
"Drwy'r math hwn o brosiect, gallaf weld bod pobl ifanc nid yn unig yn ennill sgiliau newydd ond yn elwa ar y manteision iechyd o fod yn yr awyr agored ac yn rhyngweithio â natur. Drwy addysg amgylcheddol gadarnhaol gall pobl ifanc ddechrau gweithredu dros natur a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu hardal leol."
Yn ogystal ag edrych ymlaen at afalau cartref ar gyfer crymbl afal yr ysgol, mae disgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron yn edrych ymlaen at weld y berllan yn tyfu. Wrth siarad am ei phrofiadau, dywedodd April: "Mae llawer o ddatgoedwigo yn digwydd yn y byd a bydd plannu mwy o goed yn helpu mwy o ocsigen i fynd i'r atmosffer oherwydd bod coed yn cymryd carbon deuocsid i mewn ac maen nhw'n cynhyrchu ocsigen. Bydd hefyd o fudd i'r ysgol oherwydd bydd yn creu cynefin i anifeiliaid fel adar, gwenyn a gloÿnnod byw."
Ychwanegodd Fern: "Mae'n bwysig achos nid dim ond yr amgylchedd rydyn ni'n ei ddiogelu - ond ein dyfodol."
Ac wrth sôn am fanteision bod yn rhan o'r clwb eco dywedodd Ffion, "Yn fy marn i, un o'r pethau gorau am fod yn rhan o'r clwb eco yw gwybod y gallwch chi wneud gwahaniaeth o fewn eich ysgol i'r gymuned gyfan."
Sefydlwyd Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020 i greu 'natur ar garreg eich drws'. Y syniad oedd creu ardaloedd sy’n cefnogi natur mewn cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd o amgylch trefi, gan annog mwy o werthfawrogiad ac ymdeimlad o werth natur.