English icon English

Cynllun grant newydd gwerth £10m i helpu pobl sy’n cael trafferth talu eu rhent yn ystod y pandemig

New £10m grant scheme to help people struggling to pay their rent during the pandemic

Bydd cynllun grant newydd gwerth £10m yn cael ei gyflwyno’r mis hwn i helpu pobl mewn llety rhent preifat sy’n cael trafferth talu eu rhent yn sgil y pandemig.  

Bwriad y Grant Caledi i Denantiaid yw helpu pobl sydd wedi syrthio i ddyled o wyth wythnos neu fwy gyda’u taliadau rhent rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021.

Lluniwyd y grant i helpu pobl i aros yn eu cartrefi a’u hatal rhag colli eu tenantiaeth.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, sydd â chyfrifoldeb dros dai:

“Drwy gydol y pandemig rydyn ni wedi cymryd camau digynsail fynd i’r afael â digartrefedd a helpu pobl i aros yn eu cartrefi.

“Y Grant Caledi i Denantiaid yw’r diweddaraf yn y gyfres hon o fesurau, ac fe fydd yn helpu pobl mewn cartrefi rhent preifat sydd mewn dyled gyda’u rhent o ganlyniad i’r pandemig.

“Rwy’n deall y pryder a’r straen y mae pobl yn eu hwynebu pan fyddant yn syrthio ar ei hôl hi gyda’u rhent. Rydyn ni hefyd yn gwybod, unwaith y bydd rhywun yn dechrau syrthio i ddyled gyda’i rhent, y gall fod yn gynyddol anodd dal i fyny ag ôl-ddyledion heb gymorth.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod colli cartref yn cael effaith enfawr ar unigolion a’u teuluoedd – ac mae costau enfawr hefyd i wasanaethau cyhoeddus wrth fynd i’r afael â digartrefedd. 

“Mae’r grant hwn yn helpu i atal digartrefedd drwy gynorthwyo pobl i roi sylw i’w hôl-ddyledion a chadw eu tenantiaeth.”

Gallai pobl sy’n byw mewn llety rhent preifat ac sydd wedi syrthio i ôl-ddyledion rhent o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig fod yn gymwys ar gyfer y grant. Efallai i’r ôl-ddyledion gronni gan fod yr unigolyn wedi colli incwm yn sgil cael ei roi ar ffyrlo, bod llai o waith ar gael, neu nad oedd modd iddo hawlio mwy na thâl salwch statudol pan oedd yn sâl gyda Covid-19.

Bydd y grant yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, ac ar gael i bobl nad ydynt eisoes yn derbyn budd-daliadau sy’n gysylltiedig â thai. Bydd unrhyw un sydd wedi cael benthyciad yn gweld y benthyciad hwnnw’n cael ei drosi’n grant.

Bydd pobl sy’n gymwys yn gallu cofrestru eu diddordeb gyda’u hawdurdod lleol ar unwaith a bydd y grantiau’n cael eu prosesu o ganol mis Gorffennaf. 

Ychwanegodd Julie James:

“Rydyn ni wedi cymryd camau sylweddol i leihau achosion o ddigartrefedd yn ystod y pandemig, gan helpu dros 10,000 o bobl i gael llety ers dechrau’r argyfwng.

“Er mwyn cynnal y momentwm hwn, byddwn yn parhau i ddarparu cyllid hanfodol i awdurdodau lleol i atal digartrefedd, a helpu pobl sy’n byw mewn llety dros dro i symud i’w cartrefi parhaol a diogel eu hunain.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n cael trafferth talu eu rhent – hyd yn oed os mai peth newydd yw hynny – i gysylltu â’i landlord neu asiant a sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyngor a’r cymorth cywir.

“Ein nod yw atal digartrefedd, a sicrhau pan y bo’n digwydd ei fod yn achos prin, am gyfnod byr, ac nad yw’n cael ei ailadrodd.”