Cynllun gwerth £66m yn diogelu cannoedd o eiddo yn y Rhyl rhag llifogydd
£66m scheme protects hundreds of properties in Rhyl from flooding
Mae'r prosiect mwyaf erioed o fewn Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru wedi’i agor yn swyddogol heddiw (dydd Iau 9 Hydref).
Bydd Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl gwerth £66m yn diogelu bron i 600 o eiddo yn y Rhyl rhag llifogydd ac erydiad arfordirol am ddegawdau i ddod.
Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu 85% o'r costau adeiladu, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog yn labelu'r prosiect yn 'garreg filltir arwyddocaol' mewn ymdrechion i ddiogelu cymunedau Cymru rhag bygythiadau cynyddol newid hinsawdd. Cyfrannodd Cyngor Sir Ddinbych y 15% yn weddill.
Mae'r prosiect hefyd wedi cefnogi'r economi leol drwy gyflogi 34 o bobl leol, creu chwe swydd newydd a chefnogi 132 wythnos o brentisiaethau, gan feithrin sgiliau a gyrfaoedd mewn diwydiannau hanfodol. Roedd cannoedd o fyfyrwyr hefyd wedi ymwneud â'r prosiect ar ei hyd diolch i weithgareddau cwricwlaidd a phrofiad gwaith.
Bydd y Cynllun yn diogelu 548 o eiddo preswyl a 44 eiddo amhreswyl yn y Rhyl, gan warchod cartrefi, busnesau a'r economi dwristiaeth hanfodol sy'n cefnogi'r gymuned leol.
Yn ystod yr agoriad swyddogol, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad pendant i gadw teuluoedd a busnesau yn ddiogel rhag llifogydd arfordirol wrth gefnogi'r economi leol y mae cymaint yn dibynnu arni.
"Mae cwblhau'r prosiect hwn yn dangos ein bod yn cydnabod bod mwy i fuddsoddi mewn diogelu'r arfordir na seilwaith yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â diogelu bywoliaethau, gwarchod cymunedau, a sicrhau bod Cymru yn gallu gwrthsefyll yn wyneb ein hinsawdd sy'n newid.
"Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi cymaint ag erioed mewn mesurau diogelu rhag llifogydd ledled Cymru. Gall pobl y Rhyl nawr wynebu'r dyfodol yn hyderus, gan wybod bod eu cymuned wedi’i diogelu'n well rhag grymoedd natur."
Mae Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl yn rhan o Raglen Rheoli Risg Arfordirol gwerth £291m Llywodraeth Cymru, sy'n ymateb yn uniongyrchol i heriau newid hinsawdd.
Dros bum mlynedd, bydd y rhaglen yn ariannu 15 cynllun ledled Cymru, a fydd o fudd i bron i 14,000 o eiddo ac yn diogelu miloedd o deuluoedd a busnesau yn well rhag llifogydd arfordirol.
Bydd Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol blynyddol Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £300m yn ystod tymor y llywodraeth hon, gan gynnwys cynlluniau ychwanegol a fydd o fudd i gymunedau arfordirol ledled Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych:
"Ar ôl gweld effeithiau dinistriol y llifogydd arfordirol a darodd y Rhyl ar 5 Rhagfyr 2013, mae'r gwaith hwn yn arbennig o agos at fy nghalon.
"Ar y pryd, agorodd y Cyngor Ganolfan Hamdden y Rhyl fel canolfan wacáu mewn argyfwng oherwydd y llifogydd difrifol, a bydd yr olygfa o weld fy nhrigolion yn dod i mewn yn wlyb at y croen ac yn glynu wrth eu hanifeiliaid annwyl yn byw yn fy nghof am byth.
"Mae preswylwyr yn dal i ddod ataf hyd heddiw i ddweud pa mor ddiolchgar ydyn nhw am eu bod bellach yn gallu cysgu'r nos heb orfod poeni am lifogydd yn eu cartrefi, felly rydw i mor falch o weld y rhan hon o'r prosiect yn cael ei chwblhau a fydd nawr yn rhoi tawelwch meddwl i bobl a pherchnogion busnesau’r Rhyl."
"Mae cwblhau'r cynlluniau amddiffyn arfordirol ym Mhrestatyn, Dwyrain y Rhyl a nawr Canol y Rhyl yn dystiolaeth o'r partneriaethau gwaith rhagorol a ddatblygwyd yn ystod y tri phrosiect ac ar ran y Cyngor mae'n rhaid imi estyn fy niolchgarwch i Balfour Beatty sydd wedi gwneud gwaith gwych o gyflawni'r tri chynllun hyn ynghynt na'r disgwyl ac o dan y gyllideb."
Mae agoriad y cynllun yn cyd-daro ag wythnos flynyddol 'Byddwch yn Barod am Lifogydd' Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n annog pobl i wirio eu perygl o lifogydd, cofrestru i gael rhybuddion llifogydd am ddim a gwybod yr hyn i'w wneud os oes llifogydd yn cael eu rhagweld yn eu hardal y gaeaf hwn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.