English icon English

Cynllun i gefnogi cymunedau arfordirol

Scheme to support coastal communities

Bydd cynllun i gefnogi prosiectau lleol yn ardaloedd arfordirol Cymru yn elwa ar gyllid gan Lywodraeth Cymru

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y bydd y Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn bwysig wrth helpu cymunedau arfordirol i wella canlyniadau amgylcheddol.   

Nod y gronfa yw adeiladu capasiti, gan helpu cymunedau i gymryd camau cynaliadwy sy’n ategu twf ac adferiad mewn ardaloedd morol ac arfordirol lleol. 

Mae’r mathau o brosiect y gallai’r gronfa eu helpu yn amrywio o ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â’r môr a’r arfordir, i gynnal ymarferion cwmpasu i geisio lleihau allyriadau carbon yn yr amgylchedd morol ac arfordirol.

Gallai hefyd helpu i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ecosystemau lleol a sut i’w rheoli a’u defnyddio mewn modd cyfrifol, yn ogystal â chefnogi prosiectau sy’n gwella cadwyni cyflenwi bwyd y môr lleol.

Cafodd prosiect peilot ei lansio'r llynedd ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar hwn. Mae gan y gronfa gyllideb flynyddol o £500,000 ar gyfer dwy flynedd. Rhaid i’r holl brosiectau fod wedi’u cwblhau erbyn 31 Mawrth 2025.

Mae’r broses ymgeisio’n agor ar ddydd Llun 14 Awst ac yn cau ar ddydd Gwener 22 Medi.

Bydd y gronfa’n cael ei rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fel rhan o Rwydwaith Partneriaethau Natur Lleol.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch ein bod yn gallu darparu cyllid i gefnogi prosiectau pwysig a fydd yn gwneud gwahaniaeth wrth wella canlyniadau amgylcheddol ein cymunedau arfordirol.

“Mae nifer o fentrau y gallai’r gronfa eu cefnogi, o wella cadwyni cyflenwi bwyd y môr lleol a’u gwneud yn fwy cynaliadwy, i roi syniadau ar gyfer ailgylchu ar waith a meithrin dealltwriaeth o sut i wella ansawdd dŵr.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ystyried gwneud cais i’r gronfa.”

Dywedodd Catherin Miller, Pennaeth Grantiau ac Incwm WCVA:

“Rydym yn croesawu Cynllun Adeiladu Capasiti’r Arfordir, cronfa arloesol fydd yn helpu cymunedau arfordirol yng Nghymru i weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu amgylcheddau’r môr a’r arfordir.

“Rydym wir yn disgwyl ymlaen at weld beth gall y gronfa hon ei wneud er lles cymunedau arfordir Cymru.”

I gael rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut i wneud cais i’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol ewch i  i wcva.cymru/cy/cronfa-adeiladu-capasiti-mewn-cymunedau-arfordirol