Cynllun i roi hwb i'r gyfran o'r gwariant cyhoeddus sy'n mynd i gyflenwyr yng Nghymru

Plan to boost share of public spend going to Wales-based suppliers

Gallai cynigion i gynyddu'r gyfran o'r gwariant cyhoeddus sy'n mynd i gyflenwyr yng Nghymru helpu i greu degau o filoedd o swyddi yng Nghymru.

Dyma farn y Gweinidog Cyllid a gadarnhaodd heddiw (dydd Mercher 11 Tachwedd) fod ymgynghoriad cyhoeddus ar Ddatganiad Polisi Caffael newydd Cymru bellach yn fyw.

Mae'r Gweinidog eisiau gweld newid sylweddol yn y ffordd y mae caffael cyhoeddus yn cryfhau economi Cymru, ac mae'r datganiad newydd yn anelu at gynyddu cyfran y gwariant cyhoeddus sy'n mynd i gyflenwyr yng Nghymru o tua 55% i 70%.

Mae tua £11.4 biliwn o arian cyhoeddus Cymru yn cael ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith.

Mae'r datganiad polisi arfaethedig yn nodi sut y gall y gwariant hwnnw hefyd hybu gwaith teg, cadwyni cyflenwi gwydn, arloesi a chynaliadwyedd.

Mae rhaglen cerbydau trydan sy'n cael ei defnyddio ar draws sector cyhoeddus Cymru eisoes yn dangos beth sy'n bosibl. Mae tri busnes yng Nghymru ynghlwm wrth y rhaglen hon ac mae'n arbed tua £1.5m y flwyddyn ac yn creu dros 6,000 o dunelli yn llai o allyriadau carbon.

Wrth siarad yn nigwyddiad Procurex Cymru 2026 yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog Cyllid Elin Jones:

"Er mwyn cyflawni ein huchelgais i Gymru, bydd angen i bob punt weithio'n galetach dros bobl, busnesau a chymunedau'n cenedl.

"Caffael cyhoeddus yw un o'r dulliau mwyaf pwerus y gall y llywodraeth ei ddefnyddio. O'i ddefnyddio'n dda, gall rymuso busnesau Cymru, cefnogi swyddi da, cyflymu ein trawsnewidiad i economi wyrddach a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru.

"Rwy'n annog busnesau a chyflenwyr i ddarllen yr ymgynghoriad ac ymateb. Heriwch ni lle rydych chi'n meddwl ein bod ni'n anghywir a helpwch ni i lunio datganiad sy'n uchelgeisiol, ymarferol ac sy'n adlewyrchu gwir natur caffael yng Nghymru."

Hoffai Llywodraeth Cymru glywed gan awdurdodau contractio, cyflenwyr, busnesau, y trydydd sector, undebau llafur a chymunedau.

Mae'r ymgynghoriad yn dilyn pasio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sy'n rhoi gwaith teg a chaffael sy'n gymdeithasol gyfrifol wrth wraidd penderfyniadau'r sector cyhoeddus.