English icon English
210721AuthenticFoods011 NTreharne (002)

Cynllun manwerthu newydd i helpu busnesau i efelychu llwyddiant Authentic Curries a World Foods

New retail plan to help businesses achieve similar success to Authentic Curries and World Foods

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, wedi nodi mai nod Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod newydd Llywodraeth Cymru yw helpu mwy o fusnesau i efelychu llwyddiant cwmnïau fel Authentic Curries a World Foods wrth sicrhau bod eu cynnyrch ar silffoedd manwerthwyr mawr.

Ymwelodd y Gweinidog â’r cwmni sydd wedi’i leoli yn Hirwaun yn ddiweddar i gwrdd â'r tîm a gweld rhai o'r cynhyrchion sydd ar werth ar hyn o bryd yn siopau Tesco, Morrisons, Asda, Coop a Sainsbury ledled Cymru.

Mae Authentic Curries a World Foods hefyd wedi ailfrandio ac ail-lansio gyda graffeg newydd ar eu pecynnau.

Prif amcan Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru yw gweld gwerth trosiant y diwydiant bwyd a diod yn tyfu lawer yn fwy na gwerth trosiant y DU yn gyffredinol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae nodau'r cynllun yn cynnwys creu casgliad o fusnesau bwyd a diod entrepreneuraidd newydd, cryfhau cysylltiadau gwaith gyda manwerthwyr a helpu cynhyrchwyr bach a chanolig i ddatblygu rhagor o arbenigedd.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd: "Roedd yn wych ymweld â Authentic Curries a World Foods yn Hirwaun i weld drosof fy hun pa mor llwyddiannus fu'r cwmni o ran meithrin cysylltiadau â manwerthwyr mawr a sicrhau bod eu cynnyrch ar werth yn eu siopau.

"Mae'r cwmni'n gyflogwr pwysig yn yr ardal ac roedd yn dda clywed am eu datblygiadau busnes diweddaraf gan gynnwys eu prosiect bwyd iachach caloriau isel.

"Rwyf am weld mwy o'n cynhyrchwyr a'n cyflenwyr gwych yn cyflawni llwyddiant tebyg. Bydd Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod newydd Llywodraeth Cymru yn allweddol i hyn a bydd yn helpu busnesau Cymru i gyflawni twf cadarn, cynaliadwy a phenodol.

"Rwy'n hynod falch o'r cwmnïau yn y sector ac rydym wedi ymrwymo i'w helpu i sicrhau y gall mwy a mwy o bobl fwynhau eu heitemau bwyd a diod sy’n gyffrous, yn arloesol ac o ansawdd uchel."

Dywedodd Paul Trotman Rheolwr Gyfarwyddwr Authentic Curries a World Foods, "Roeddwn wrth fy modd yn croesawu'r Gweinidog i Hirwaun ac yn gallu dweud wrthi am y cynnydd rydym wedi ei wneud.

"Gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae ein hopsiynau iachach calorïau isel wedi bod yn darparu bwyd iach a maethlon i staff y GIG ac ymwelwyr fel ei gilydd. Gobeithiwn eu cyflwyno i awdurdodau Iechyd eraill yn fuan.

Mae ein busnes manwerthu'n mynd yn dda.  Rydym wedi diweddaru ein brandio gyda dyluniad y pecyn wedi'i adnewyddu a brandio cryfach a ffotograffiaeth o ansawdd uchel sydd wedi gweld gwerthiant yn tyfu dros 30%, a diolch i raglen Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru rydym wedi cael ein cyflwyno i ddarpar gwsmeriaid newydd."

Dywedodd Steve Barnard, Rheolwr Cydymffurfiaeth Dechnegol Arlwyo a Busnes Masnachol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, "Roedd yn dda cwrdd â'r Gweinidog a thrafod y gwaith rydym wedi'i wneud gydag Authentic Curries a  World Foods i ddatblygu amrywiaeth o opsiynau iachach i'n staff a'n hymwelwyr, a sut rydym yn hyrwyddo ac yn arddangos y cynhyrchion hynny, gan ganiatáu i staff wneud dewis gwybodus yn seiliedig ar y gwerth calorifig yn ogystal â phris."