Cynllun prentisiaeth arloesol yn rhoi hwb i'r gweithlu gofal cymdeithasol
Innovative apprenticeship scheme boosting social care workforce
I nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, aeth y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i gwrdd â chyn brentisiaid i glywed sut y gwnaeth cynllun arloesol eu helpu i gymhwyso fel gweithwyr cymdeithasol yn y Rhondda.
Mae Academi Gofal Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig hyfforddiant a phrentisiaethau i aelodau staff sydd am ennill cymwysterau mewn gwaith cymdeithasol.
Mae 96% o'r staff a gefnogir gan yr Academi wedi aros o fewn y cyngor, gyda llawer ohonynt wedi dod yn weithwyr cymdeithasol profiadol mewn gwasanaethau plant ac oedolion.
Roedd Naomi Frere, 27 oed, yn blentyn sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf, a diolch i'w cynllun prentisiaethau, mae hi bellach yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig sy'n helpu i ddiogelu plant a chadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Dechreuodd Naomi weithio fel cynorthwyydd cyllid yn y cyngor yn 2015 ond roedd hi bob amser yn angerddol am weithio ym maes gwasanaethau plant.
Fel rhiant corfforaethol, cefnogodd Rhondda Cynon Taf hi drwy eu rhaglen GofaliWaith lle cafodd fynediad at ystod o adnoddau a chyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth.
Yn 2017, sicrhaodd brentisiaeth o fewn gwasanaethau Meisgyn Rhondda Cynon Taf, sy'n hyrwyddo sefydlogrwydd mewn lleoliadau i blant sy'n wynebu anawsterau yn eu bywydau.
Yna graddiodd gyda gradd mewn gwaith cymdeithasol yn 2022 ac mae hi bellach wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers bron i 3 blynedd.
Dywedodd Naomi:
“Roeddwn i'n gwybod o oedran ifanc iawn fy mod i eisiau gweithio gyda phlant, a'u helpu nhw. Gan fy mod wedi cael profiad o ofal, roeddwn i eisiau deall y penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud ar fy rhan i, ac ar ran plant eraill sy'n derbyn gofal.
“Fe wnaeth y cynllun prentisiaeth fy helpu i mewn sawl ffordd. Doeddwn i ddim yn gallu fforddio mynd yn ôl i fyd addysg ac fe wnaeth Rhondda Cynon Taf fy nghefnogi i fynd ar drywydd fy swydd ddelfrydol.
“Mae'r cyngor wedi buddsoddi eu hamser ynof ac wedi fy helpu i dyfu dros y 10 mlynedd diwethaf.
“Roeddwn i eisiau rhoi yn ôl i'r gymuned wnaeth fy magu i, a nawr dw i'n gallu helpu plant sydd wedi cael profiadau tebyg i fi.
“Byddwn yn annog unrhyw un i wneud prentisiaeth, roedd y gefnogaeth a'r hyfforddiant a gefais i yn anhygoel.”
Yn 2022, derbyniodd y cyngor Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol am ei ymrwymiad i ddatblygu staff ac am ei lwyddiant wrth gyflogi bron i 400 o brentisiaid yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
"Gall gofal cymdeithasol fod yn yrfa am oes.
"Drwy ddarparu dilyniant gyrfa a chyfleoedd hyfforddi cynhwysfawr drwy brentisiaethau, gallwn gryfhau ein gweithlu gofal cymdeithasol yn sylweddol. Roedd yn ysbrydoledig gweld hyn ar waith yn Rhondda Cynon Taf, lle mae unigolion yn ffynnu ac yn defnyddio eu sgiliau i gefnogi cymunedau lleol.
"Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i weld sut y gallwn gyflwyno arferion arloesol fel hyn ar draws Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Caple, Aelod Cabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf:
“Rwy'n deall pa mor bwysig yw cefnogi plant a phobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf i ffynnu a chyflawni eu nodau gyrfa.
“Mae cefnogi prentisiaid a chynlluniau fel Care2Work yn allweddol i'r cyngor gyflawni gweithlu sefydlog, medrus, sy'n cael cefnogaeth dda. Rwy'n falch o weld y fenter wych hon yn helpu unigolion ac yn cryfhau ein cymuned trwy feithrin gweithwyr cymdeithasol medrus ac ymroddedig.”
Nodiadau i olygyddion
Corporate parenting charter | GOV.WALES - The collective responsibility of partners when a child enters care. This includes local authorities, elected members, employees and partner agencies. Every member and employee of the council has a statutory responsibility to act for that child.