English icon English
Eluned Morgan (P)#6

Cynnig brechlyn i bob oedolyn yng Nghymru yn gynt na’r disgwyl

All adults in Wales offered a vaccine ahead of schedule

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi diolch i dimau brechu gwych Cymru, wrth iddi gadarnhau y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru wedi cael cynnig brechiad erbyn dydd Llun (14 Mehefin). Mae hynny chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl. 

Nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un sydd wedi newid eu meddwl ynghylch cael brechiad i gael apwyntiad – mae gan Gymru bolisi o "beidio â gadael neb ar ôl" ac mae gan bob bwrdd iechyd systemau ar waith i alluogi pobl i gael apwyntiad os ydynt yn credu eu bod wedi'u colli o'r rhestr neu os ydynt wedi newid eu meddwl.

Mae clinigau brechu ledled Cymru yn cyflymu’r gwaith o roi’r ail ddos yn sgil y pryderon cynyddol am ledaeniad yr amrywiolyn delta o’r feirws ar draws y DU.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae Cymru yn arwain y byd o ran canran y boblogaeth sydd wedi'u brechu.

“Rwy’n hynod falch ein bod heddiw wedi cyrraedd y garreg filltir o gynnig y dos cyntaf i bob oedolyn cymwys yn y wlad – a hynny chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl.

“Mae hyn yn gyflawniad aruthrol a hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion anhygoel. Ond dydyn ni ddim am laesu dwylo. Yn benodol, hoffwn annog oedolion ifanc i dderbyn y cynnig - dydyn ni ddim am adael neb ar ôl. 

“Rydyn ni’n awyddus i weld unigolion 18-39 oed yn cael eu brechu, ac yn gobeithio cyrraedd ein carreg filltir o frechu 75% o’r grŵp oedran hwn erbyn diwedd y mis hwn. Manteisiwch ar y cyfle pan gewch gynnig apwyntiad - mae’n eich diogelu chi, eich anwyliaid a’ch cymunedau, a dyma’r llwybr gorau allan o’r pandemig.”

Jenny Spreafico yw Cydlynydd Imiwneiddio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac mae ganddi gefndir o weithio fel nyrs ysgol. Mae hi wedi bod yn arwain rhaglen frechu’r sir yn ogystal â brechu pobl yr ardal. Dywedodd Jenny:

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi manteisio ar y brechlyn ac annog unrhyw un sydd heb gael y brechlyn eto i ddod i’w gael. Os nad ydych yn gallu cadw eich apwyntiad, rhowch wybod i’ch bwrdd iechyd fel nad yw’ch dos yn cael ei wastraffu. Mae mwy na 85% o bobl yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf. 

“Nid oes terfyn amser ar y cynnig o frechlyn – os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gall gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru eich helpu. Mae’r brechlyn yn eich diogelu chi, eich ffrindiau a’ch teulu – yn ogystal â’ch cymuned.” 

Nodiadau i olygyddion

For more information or to arrange interviews, contact:

Rachel Bowyer – marieconcannon.rachelbowyer@gov.wales

Find health board contact details here to rearrange your appointment or if you think you have been missed.

Students studying in Wales or returning to Wales can find out more about accessing the vaccine here

Public Health Wales information on the vaccination

On Tuesday June 15 (17.00-18.00), we are hosting a virtual Q&A event for students and others in the 18-30 age group. A panel of experts will discuss and answer questions about the Covid-19 vaccines.  Further details/ RSVP: oliver@mmc-uk.co.uk

Dr Bnar Talabani is available for interview to talk about why young people should take up the opportunity of a vaccine when called.  Dr Talabani is a passionate champion of vaccine uptake and has been using TikTok to appeal to younger people and dispel myths about the vaccine.