English icon English

Cyrsiau coleg newydd ar gyfer swyddi yn yr economi werdd

New college courses for jobs in the green economy

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £2 filiwn i golegau addysg bellach i ddarparu hyfforddiant ar gyfer swyddi yn yr economi werdd.

Mae'r cyllid yn rhan o raglen Cyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi pobl mewn swyddi incwm is i ailhyfforddi a symud i swyddi tymor hwy, medrus gydag enillion ar lefelau uwch.

Dyfarnwyd cyllid i chwe choleg i ddarparu'r cyrsiau, a fydd yn cynnwys meysydd fel ceir trydan a cheir hybrid, systemau gwresogi ecogyfeillgar ac e-feiciau. Bydd y cyrsiau ar gael o lefel 2 i lefel 5, gyda'r rhan fwyaf o gyrsiau ar lefel 3. Mae'r cyrsiau'n rhan-amser ac yn hyblyg, wedi'u cynllunio ar gyfer astudio o amgylch ymrwymiadau eraill.

Bydd y cyrsiau'n agored i:

  • oedolion dros 19 oed sy'n ennill llai na £26,000 y flwyddyn, gan gynnwys gweithwyr sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd, neu ar gontract dim oriau, neu y mae eu swydd mewn perygl;
  • gweithwyr cwmnïau sydd wedi nodi anghenion hyfforddiant penodol yn y sectorau hyn.

Mae cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol wedi'u cynllunio i gyd-fynd â bylchau o ran sgiliau a nodwyd mewn sectorau â blaenoriaeth. Mae colegau addysg bellach wedi cydweithio â chyflogwyr i ddatblygu cyrsiau y disgwylir iddynt greu cyfleoedd gwaith nawr neu yn y dyfodol agos.

Y colegau y dyfarnwyd cyllid iddynt yw:

  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Coleg Sir Benfro
  • Coleg Sir Gâr
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Coleg Penybont

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Bydd swyddi yn yr economi werdd yn parhau i gynyddu yn y dyfodol, wrth i ni ddwysáu ein camau gweithredu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, fel y symud tuag at drafnidiaeth sy'n fwy ecogyfeillgar. Bydd ein colegau addysg bellach yn allweddol i sicrhau bod gennym weithwyr medrus sydd â'r arbenigedd i ddiwallu’r galw gan gyflogwyr.

“Os ydych chi'n poeni ynghylch pa mor sicr yw eich gwaith, neu os ydych chi ar ffyrlo neu gontract dim oriau, gallai cael mynediad i Gyfrif Dysgu Personol am ddim roi'r sgiliau a'r cymwysterau i chi gychwyn ar yrfa newydd a gwerth chweil.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

"Rydym am adeiladu economi sy'n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru i ffynnu, tyfu a chreu swyddi'r dyfodol, fydd yn edrych yn wahanol iawn i swyddi'r gorffennol.

"Bydd ein buddsoddiad cynyddol mewn Cyfrifon Dysgu Personol yn helpu i sicrhau bod gweithwyr ledled Cymru yn gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi newydd i uwchsgilio neu ailsgilio a manteisio ar y cyfleoedd y bydd y swyddi newydd hyn yn eu darparu i bobl, cymunedau ac economi ehangach Cymru."

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i greu swyddi newydd yn niwydiannau’r dyfodol, ac i drawsnewid ein heconomi yn un sy’n wyrddach ac yn decach.

“Bydd y cyrsiau hyn yn creu cyfleoedd newydd mewn diwydiannau sy'n gynaliadwy ac a fydd yn ein helpu o ran ein nod cyffredinol o frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.”

Mae rhagor o wybodaeth am Gyfrifon Dysgu Personol ar gael drwy gysylltu â'ch coleg addysg bellac