Da iawn Gymru! Cymru'n cael ei henwi'n ail orau yn y byd am ailgylchu
Da iawn Cymru! Wales named as second best recycling nation in the world
Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae Mae Cymru wedi cael ei henwi'n ail orau yn y byd am ailgylchu.
Mae Cymru ymhell ar y blaen yn y DU, ac mae ychydig y tu ôl i Awstria yn y safleoedd byd-eang a gyhoeddwyd gan Eunomia Research and Consulting a Reloop.
Mae Gogledd Iwerddon yn 9fed, Lloegr yn 11eg a'r Alban yn 15fed ymhlith y 48 o wledydd sydd wedi cael eu cynnwys wrth gymharu'r cyfraddau.
Roedd ‘Global Recycling League Table - Phase One Report’ yn edrych ar sut hwyl y mae 48 o wledydd yn ei chael wrth ailgylchu, gan gynnwys y gwledydd hynny sy'n cofnodi'r cyfraddau ailgylchu uchaf, a llawer o economïau mwyaf y byd.
Mae'n cael ei gyhoeddi heddiw ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd.
Dywedodd Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru: “Mae'n newyddion gwych bod Cymru wedi dringo i fod yn ail yn y byd am ailgylchu. Mae hynny'n dangos yr hyn y gallwn ni ei gyflawni pan fydd pobl ym mhob cwr o Gymru yn gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd targedau uchelgeisiol, gan wneud hynny gyda chymorth y buddsoddiad sydd a wnaed yn ein seilwaith.
“Diolch i ymdrechion aelwydydd a gweithleoedd ledled Cymru, rydyn ni wedi newid o genedl oedd â chyfraddau ailgylchu isel iawn pan ddechreuodd datganoli i un o wledydd mwyaf blaenllaw'r byd sydd ymhell ar y blaen i weddill y DU.
“Mae'r hyn a gyflawnwyd yn eiddo i bob un ohonom, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wella hyd yn oed mwy ar gyfraddau ailgylchu. Ein targed nesaf yw cyrraedd y brig.”
Ychwanegodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd: “Mae hyn yn newyddion gwych a thrwy'r camau rydyn ni'n eu cymryd yn barod, rydyn ni'n anelu at herio'r wlad sydd wedi cyrraedd y brig.
“Drwy fabwysiadu'r dulliau llwyddiannus o ailgylchu gwastraff y cartref, a'u cyflwyno yn ein gweithleoedd, rydyn ni hefyd yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, ac yn dod â budd i'r economi drwy gael gafael ar gyflenwad o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu sy'n rhai uchel eu hansawdd.
“Mae hynny mor bwysig i Gymru oherwydd ei fod yn golygu ein bod yn casglu deunyddiau eildro o ansawdd uchel sy'n cael eu bwydo'n ôl i'r economi ac yn helpu i greu swyddi, gyda chanran uchel o'r deunyddiau hynny'n aros yng Nghymru a'r DU yn ehangach i gael ei phrosesu.
“Mae hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur drwy leihau'n hallyriadau carbon ac osgoi'r angen i dynnu deunyddiau crai o'r ddaear a'r difrod y mae hynny'n gallu'i achosi.
“Dw i'n sôn yn aml am y ffordd Gymreig o wneud pethau, ac mae'r ymdrech tîm sydd wedi arwain at y llwyddiant hwn heddiw yn un y dylai pob un fod yn haeddiannol falch ohono – da iawn Gymru!"
Mae AWD Group yn gwmni Cymreig sy'n chwarae rhan bwysig yn yr economi gylchol yma yng Nghymru. Cafodd eu llinell gronynnu plastig gymorth gan gynllun peilot Llywodraeth Cymru ar gyfer Cronfa’r Economi Gylchol.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr AWD Group Ltd, Alun Wyn Davies: “Rydyn ni'n cymryd 300 tunnell o blastigau anhyblyg cymysg yr wythnos ac rydyn ni'n falch o'r cyfraniad rydyn ni'n ei wneud tuag at ein targedau ailgylchu yng Nghymru.
“Mae glanhau a phrosesu'r deunydd hwn yn waith caled, ond mae ailgylchu'r plastigau hyn yn bwysig oherwydd byddai'n hanesyddol wedi mynd i safleoedd tirlenwi ac ni fyddai'n dadelfennu am gannoedd o filoedd o flynyddoedd.
“Rydyn ni’n falch o gyflogi 38 aelod o staff a byddwn yn cyflwyno ail shifft yn fuan a fydd yn cyflogi 22 o swyddi ychwanegol. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n gweithio yma yn dod o Gastell-nedd Port Talbot. Dw i'n dod o'r ardal fy hun felly mae cyflogi pobl leol yn bwysig i fi, yn enwedig gyda'r sefyllfa bresennol yn Tata.
“Mae Cymru wirioneddol ar y map gyda'r ffigurau ailgylchu hyn, ac mae hynny'n gyflawniad aruthrol.”