English icon English

Datblygiad tai uchelgeisiol i ddarparu mwy na 100 o gartrefi ynni-effeithlon

Ambitious housing development to deliver more than 100 energy efficient homes

County Flats yw datblygiad mwyaf uchelgeisiol Tai Tarian hyd yma. Bydd y 72 o fflatiau presennol yn cael eu trawsnewid, a 55 o gartrefi newydd yn cael eu creu.

Yn ddiweddar, ymwelodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, â'r safle ym Mhort Talbot: "Mae County Flats yn rhywbeth arbennig iawn a hoffwn weld mwy o ddatblygiadau uchelgeisiol fel hyn yn darparu tai carbon isel o ansawdd da ac yn creu mwy o gyfleoedd i deuluoedd ac unigolion.

"Mae'n enghraifft wych o sut rydyn ni'n cefnogi datgarboneiddio cartrefi ledled Cymru trwy nid yn unig adeiladu cartrefi newydd ond uwchraddio'r stoc dai sy'n bodoli eisoes."

Mae'r fflatiau presennol wedi'u huwchraddio drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gyda chyfres o nodweddion ynni-effeithlon, gan gynnwys uwchraddiadau thermol, paneli solar, inswleiddio a ffenestri gwydr dwbl. 

Bydd yr eiddo sy'n cael eu hadeiladu o'r newydd yn elwa o osodiadau ynni-effeithlon, gan gynnwys pympiau gwres o'r aer, system sy'n amsugno gwres o'r awyr agored ac yn ei ddefnyddio i gynhesu'r cartrefi a dŵr poeth.

Fel pob adeilad newydd yng Nghymru, bydd y cartrefi yn cydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (WDQR) 2021 yn ogystal â Safonau Cartrefi Gydol Oes, gan sicrhau bod y cartrefi'n fodern, yn effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy.

Mae cyllid o'r Grant Tai Cymdeithasol wedi'i ddarparu i adeiladu 55 o gartrefi cymdeithasol ar y safle a fydd yn cyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon.

Mae cyfanswm o dros £12m o gyllid wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad y cartrefi presennol a'r cartrefi newydd.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei blaen: "Yn ddiweddar, cyhoeddais lansiad cynllun peilot Cartrefi Gwyrdd Cymru, sy'n gam cyffrous arall yr ydym yn ei gymryd i helpu perchnogion tai i wneud dewisiadau gwyrdd ac ynni-effeithlon, gan wella ansawdd a chysur hirdymor eu cartrefi."

Fel rhan o'r cynllun, gall perchnogion tai dderbyn cyllid i gael cyngor arbenigol gan gydlynydd ôl-osod i helpu i benderfynu pa fath o dechnoleg datgarboneiddio sy'n gweithio i'w cartref.

Byddant hefyd yn cael eu cefnogi i gael mynediad at gynlluniau cyllido sy'n bodoli eisoes fel y Cynllun Uwchraddio Boeleri a chyllid grant wedi'i dargedu i annog pobl i gymryd camau gwyrdd.   

DIWEDD